Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Dyddiad cau 24/03/2026
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Math o gontract
- Dros dro
Disgrifiad o'r swydd
ManylionHysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Sianed Jones ar 01286 682 748
Rhagwelir cynnal cyfweliadau
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 24/03/2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd (3).pdf
Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Agwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Ymrwymiad i weithio i amddiffyn diogelwch, llesiant a lles plantGallu gweithio fel rhan o dîm ac yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr TîmArddangos ymrwymiad a brwdfrydedd mewn perthynas â chyflawni deilliannau positif i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.Bod yn ymrwymedig i ddatblygiad personolGallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn gallu adeiladu perthnasau da
Gallu bod yn greadigol ac yn llawn dychymyg gyda phlant a theuluoedd
Hyblygrwydd
Gallu gweithio dan bwysau
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
5 TGAU gradd C neu uwch
Dymunol
Cymhwyster mewn gofal plant neu ofal cymdeithasol neu Iechyd perthnasol (e.e. NVQ 3, Diploma mewn astudiaethau lles, Datblygiad Plant)
Tystiolaeth o ddatblygiad personol perthnasol drwy hyfforddiant mewn swydd
Profiad perthnasolHanfodol
Gallu a'r profiad o weithio'n unigol ac fel aelod o dîm.
Gallu cyfathrebu'n dda.
Gweithio mewn modd creadigol a phositif.
Gallu gweithio dan bwysau
Gallu cynnal trafodaethau anodd a heriol
Profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd sy'n dangos amrediad o anghenion cymhleth (heriau iechyd meddwl, anawsterau ymddygiad, camddefnydd o gyffuriau ac alcohol, trais domestig) a dangos gallu i greu cydberthynas ac adeiladu perthnasau effeithiol.
Gwybodaeth am ddiogelu, deddfwriaeth gofal plant, Gweithdrefnau Amddiffyn Plant lleol, a dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn, capasiti rhiantu a ffactorau risg ac amddiffynnol.
Gallu meithrin perthnasau adlewyrchol, cefnogol yn canolbwyntio ar ganlyniadau gyda phlant a'u teuluoedd.
Profiad o gynllunio gwaith mewn modd strwythuredig ac effeithlon
Mynychu a chyfrannu mewn cyfarfodydd
Dymunol
Profiad o gynnal neu gyfrannu at asesiadau, cynllunio gofal ac adolygiadau gyda chleientiaid ag anghenion cymhleth.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o amrediad o ddulliau ar sail tystiolaeth, gan gynnwys theori ymlyniad a cholled, perthynas ac ymyraethau ar sail cryfder.
Profiad o roi adborth dadansoddol ar fewnbwn a chynnydd mewn achosion
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Sgiliau TG
Gwybodaeth am anghenion plant a datblygiad plentyn
Dealltwriaeth ac ymrwymiad i ymarfer diragfarn ac anormesol
Gallu dehongli a chofnodi digwyddiadau'n glir a chywir
Trwydded yrru gyfredol, lân
Gallu paratoi adroddiadau o ansawdd mewn Cymraeg a Saesneg
Gallu cyfathrebu yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Cyfrannu at ddyfeisio a gweithredu cynlluniau i fodloni anghenion plant.
Gallu ffurfio a chyflwyno pecynnau cefnogaeth a grymuso creadigol, wedi'u teilwra i fodloni anghenion yr unigolyn.
Tystiolaeth o ymwybyddiaeth amlasiantaethol a sut fydd gweithio mewn partneriaeth yn gwella darpariaeth y gwasanaeth ac yn cyflawni amcanion yr unigolyn.
Cynnal perthnasau cefnogol gyda chydweithwyr mewn gwaith cymdeithasol ac asiantaethau allanol.
Gallu ymgysylltu gyda phlant a'u teuluoedd a chynnal perthnasau.
Cyfrannu at goladu gwybodaeth briodol er mwyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch pecynnau cefnogi.
Deall pwrpas goruchwyliaeth.
Ymwybyddiaeth o hunan-reoli proffesiynol
Dymunol
Profiad a gwybodaeth mewn perthynas â dulliau ymyrryd megis rhiantu, rheoli ymddygiad, ffyrdd o fyw iach, ymwybyddiaeth ofalgar.
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithio ochr yn ochr a chefnogi'r tîm gofal cymdeithasol wrth ddarparu gwasanaethau o fewn Gwasanaethau Plant
• Cwblhau gwaith uniongyrchol gyda theuluoedd dan oruchwyliaeth Rheolwr Tîm
• Cyfrannu at ymgymryd ag asesiadau, cydlynu ymyraethau ac adolygu gwasanaethau.
• Rhoi gwybod i'r Rheolwr Tîm am unrhyw bryderon sy'n codi mewn perthynas â diogelwch plentyn.
• Gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth, darparwyr gwasanaeth a'r sector gwirfoddol a thrydydd sector.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifiadur, ffôn symudol.
Prif ddyletswyddau
Paratoi ar gyfer, a gweithio gydag unigolion, teuluoedd ac eraill i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y Rheolwr Tîm.
Ymddwyn yn briodol wrth dderbyn atgyfeiriadau/achosion newydd, yn cynnwys adolygu nodiadau achos a deunydd arall priodol cyn gwneud cyswllt cyntaf.
Gweithio gyda'r defnyddiwr gwasanaeth ac eraill (teulu, gofalwyr, grwpiau cefnogi a phobl broffesiynol arall) fel yn briodol a dan oruchwyliaeth y Rheolwr Tîm o fewn fframwaith y tîm gofal cymdeithasol.
Gallu gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth ryngasiantaethol, amlddisgyblaethol i ddarparu gwasanaeth o'r arfer orau
Paratoi, ymgymryd â, adolygu a gwerthuso ymarfer gydag unigolion, teuluoedd ac eraill.
Sicrhau gweithredu cynlluniau gofal/cefnogol y cytunir arnynt dan oruchwyliaeth y Rheolwr Tîm ar y cyd gydag asiantaethau eraill a darparwyr gwasanaeth.
Mynd i'r afael ag ymddygiad y defnyddiwr gwasanaeth, ac eraill, mewn modd adeiladol er mwyn lleihau risg o niwed ac atal cam-drin.
Sicrhau cofnodion achos effeithiol sy'n gywir ac yn cael eu cwblhau yn defnyddio systemau a meddalwedd TG priodol.
O dan oruchwyliaeth y Rheolwr Tîm, defnyddio eich sgiliau i ymgysylltu â phlant a theuluoedd i sicrhau bod prosesau cefnogi a newid priodol yn cael eu ceisio.
Datblygu a chynnal partneriaeth effeithiol a chefnogol yn gweithio gyda rhieni a theuluoedd.
Gweithio mewn ffordd sy'n grymuso ac yn ysgogi rhieni a theuluoedd.
Cefnogi unigolion i fynegi eu hanghenion, eu barn a'u hamgylchiadau
Darparu adroddiadau clir a chywir i'r safon ac o fewn yr amserlen sy'n ofynnol yn y maes gwaith.
Mae hwn yn rôl lle mae rhyngweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth ac amrediad o asiantaethau yn helaeth.
Disgwylir i ddeilydd y swydd, dan oruchwyliaeth y Rheolwr Tim, weithio mewn partneriaeth ar draws ymyraethau heriol, ac ar adegau, amhoblogaidd.
Bydd angen i ddeilydd y swydd weithio'n effeithiol gyda theuluoedd yn cynnwys gofalwyr maeth a gallu cydbwyso anghenion disgwyliadau gwahanol unigolion.
Gallu i weithio o dan oruchwyliaeth Rheolwr Tîm mewn amgylchedd swyddfa brysur.
Mae angen i ddeilydd y swydd allu gweithio gyda lefel uchel o sensitifrwydd a gallu datblygu perthnasau gwaith effeithiol.
Rheoli risg i unigolion, teuluoedd, eich hunain ac eraill
Asesu a rheoli'r risgiau i unigolion, teuluoedd, eich hunain ac eraill ac adrodd unrhyw bryderon i'r Rheolwr Tîm
Rheoli a bod yn atebol, gyda goruchwyliaeth a chefnogaeth, am eich ymarfer eich hun.
Cydymffurfio â Bwrdd Diogelu Plant Lleol a gweithdrefnau ac arferion Adrannol diogelu plant.
Cydymffurfio gyda'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, safonau cenedlaethol a pholisïau Adrannol perthnasol.
Cadw cofnodion achosion a ffeiliau cywir a chyfredol yn unol â gofynion polisi'r adran ar ddiogelu data, cadw cofnodion a chyfrinachedd.
Cymryd rhan yn rhagweithiol mewn goruchwyliaeth unigol ac adolygiadau gwerthuso perfformiad.
Gwneud cyfraniad positif i'r tîm drwy gydweithio gyda chydweithwyr a'r rheolwr llinell.
Mynychu cyfarfodydd tîm a chymryd rhan mewn gweithgorau perthnasol a chyfarfodydd adrannol a rhyngasiantaethol fel bo'r angen.
Cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaus a mynd ar gyrsiau/hyfforddiant perthnasol
Dangos ymrwymiad at, a chefnogaeth ar gyfer datblygu'r arfer orau
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill o fewn cwmpas pwrpas y swydd, teitl y swydd.
Gweithio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r cyflogwr ac unrhyw ofynion statudol perthnasol.
Yn cynnwys teithio o gwmpas Gwynedd a thu hwnt - a theithio peth o fewn y DU ar adegau, yn delio gyda sefyllfaoedd caled.
Mae disgwyl i holl weithwyr y Cyngor fod yn ymwybodol o'r Polisi Diogelu Corfforaethol a'u cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryderon yn y ffordd briodol ac o fewn amserlen briodol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Gweithio o fewn fframwaith hyblyg i fodloni gofynion y gwasanaeth y tu allan i'r oriau 9 tan 5 arferol, pan fo angen.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.