Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Dyddiad cau 28/01/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Math o gontract
- Dros dro
- Maes gofal
- Gofal plant
- Gweithle
- Cyfleusterau Crèche a Meithrinfeydd Dydd
- Rôl
- Practitioner
Disgrifiad o'r swydd
ManylionHysbyseb Swydd
Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol - Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Tîm Andoddau Cymunedol Llŷn
Swydd Dros Dro yw hon am gyfnod o flwyddyn.
Yr oriau fydd 37 awr (5 diwrnod) hyd at 31/03/2025 a wedyn 29.6 (4 diwrnod) am weddill y flwyddyn.
Cyflog yn gweithio 37 awr: £33,366 - £35,235
Cyflog yn gweithio 29.6 awr - £26,692 - £28,188
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Elin Owen Hildige ar 01758704429
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 28/01/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant (1).pdf
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Meddu ar sgiliau cyfathrebu da gyda'r gallu i ddelio â phobl mewn modd sensitif a chwrtais.
Hyblyg, dibynadwy ac yn gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm.
Meddu ar y gallu i flaenoriaethu a chwblhau tasgau gan gwrdd â therfynau amser penodol.
Ymrwymiad i werthoedd, egwyddorion, nôd ac amcanion y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dealltwriaeth o ymarfer gwrth ormesol.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Safon addysg dda i lefel TGAU neu uwch i gynnwys Cymraeg a Saesneg.
• Cymhwyster lefel 4 addas mewn asesu neu gymhwyster uwch/cyffelyb mewn gofal. Y cymhwyster cyfredol derbyniol yn unol â Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru yw 'Tystysgrif AU y Brifysgol Agored mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (K101/102 & KZW113). Rhaid felly bod yn fodlon ac yn meddu'r gallu i gyflawni'r cymhwyster fel amod o dderbyn y swydd oni bai eich bod yn ei feddu (neu gymhwyster uwch) yn barod.
• Yn meddu ar gymhwyster neu yn cytuno i gwblhau Hyfforddiant lefel 4 'Trusted Assessor' ar gyfer asesu am offer ac addasiadau bach a canolig fel amod o dderbyn y swydd.
DYMUNOL
Hyfforddiant yn y maes gofal.
Cymhwyster prosesu geiriau ECDL neu debyg
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad helaeth o weithio o fewn y sector gofal a dealltwriaeth o'r gwasanaethau cymdeithasol statudol.
Profiad o ddelio'n effeithiol a phositif gyda'r cyhoedd ac asiantaethau tu allan i'r Cyngor.
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu i wrando, trafod ac adnabod gwybodaeth / problemau yn ystyrlon gydag unigolion sydd efallai mewn sefyllfaoedd o argyfwng.
Gallu i ddadansoddi gwybodaeth ac ymateb mewn modd priodol gan ddilyn protocolau a dull gweithredu'r gwasanaeth.
Sgiliau cyfrifiadurol - yn gallu defnyddio systemau Microsoft Word ac Outlook.
Meddu ar sgiliau o weithio'n ofalus a chywir heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Gallu i gwblhau asesiadau gofal cymdeithasol cychwynnol a chofnodi gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg.
Gallu i weithredu gan sicrhau diogelwch data a chyfrinachedd.
Gwybodaeth sylfaenol ynglŷn ag anableddau, afiechydon a chyflyrau cronig mwyaf cyffredin (e.e. strôc).
Gwybodaeth ynglŷn â chefnogaeth sydd ar gael o fewn y gymuned i helpu pobl parhau i fwy mor annibynnol â phosib e.e. cefnogaeth i ofalwyr neu berson hŷn bregus sydd newydd adael yr Ysbyty.
DYMUNOL
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth yn ymwneud a gofal cymdeithasol.
Profiad o ddefnyddio'r system Asesu Unedig a chofnodi a'r system data gofal.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Bwriad y tim integredig oedolion yw:
"fy ngalluogi i fyw fy mywyd fel rydw i yn ei ddymuno"
• Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd maent eisiau ei fyw.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym ni yn ei wneud.
• Asesu anghenion oedolion ac anghenion llai cymhleth a'i gofalwyr yn unol â gofynion Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2014 a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill.
• Darparu Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i ddinasyddion i'w galluogi i gwrdd ac amcanion personol.
• Cynorthwyo pobl i adnabod datrysiadau, atal dibyniaeth a hyrwyddo annibyniaeth.
• Darparu gwybodaeth ynglŷn â'r adnoddau cefnogol sydd ar gael yn y gymuned, gan y trydydd sector, y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd er mwyn galluogi dinasyddion i fyw mor annibynnol â phosib a gwella eu hansawdd bywyd i'r eithaf.
• Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu y Cyngor a chyfrifoldebau Statudol.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Staff - Dim cyfrifoldeb reolaethol uniongyrchol dros staff. Disgwyliad i ddeilydd y swydd weithio fel rhan o dim drwy gefnogi cydweithwyr.
• Cyllid - Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i unigolion er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y gwasanaeth.
• Offer - cyfrifoldeb am unrhyw offer a ddefnyddir i gyflawni'r swydd. Cyfrifoldeb dros asesu a lle bo'n briodol archebu offer addas yn unol â dyletswyddau ' Addasiadau - cyfrifoldeb am asesu a gwneud argymhellion ar gyfer darparu addasiadau bac hi canolig yn unol a dyletswyddau '.
Prif Ddyletswyddau.
• Cefnogi unigolion i gymeryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau am ofal a chefnogaeth yn eu bywyd.
• Cydweithio gyda dinasyddion a'u gofalwyr i adnabod 'Beth sy'n bwysig iddynt' a dod o hyd i ffyrdd i gwrdd ag amcanion personol.
• Hybu grymuso llais yr unigolyn. Cefnogi unigolion i gael cefnogaeth adfocatiaeth.
• Cydweithio gydag unigolion a'u gofalwyr i gynllunio amrediad o wasanaethau sydd eu hangen i gwrdd ag amcanion personol.
• Cynorthwyo dinasyddion a'u gofalwyr i gwrdd ag amcanion personol drwy ddarparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.
• Darparu gwybodaeth a chyngor i ddinasyddion a'u gofalwyr am y cymorth sydd ar gael gan y gwasanaeth a hefyd eu cyfeirio at y gwasanaethau cefnogol ehangach sydd ar gael yn y gymuned gan grwpiau a mudiadau lleol a chenedlaethol.
• Derbyn ymholiadau a chyfeiriadau ar ran yr ardal gan ddinasyddion, eu gofalwyr a theuluoedd neu swyddogion proffesiynol eraill er mwyn sicrhau gwasanaeth effeithiol i ddinasyddion a'u gofalwyr.
• Ymgymryd â chyfrifoldebau cydlynydd achos ar gyfer oedolion yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 gan dynnu i mewn arbenigedd proffesiynol fel bo'r angen.
• Monitro ac adolygu safon a digonrwydd y gwasanaeth ar gyfer oedolion.
• Comisiynu cynlluniau gofal a chefnogaeth, archebu offer arbenigol i'r cartref ynghyd a hybu cyfleoedd i alluogi pobl i fyw mor annibynnol ag sy'n bosib yn y gymuned/yn eu cartrefi yn unol â'i dymuniadau.
• Asesu, cynghori a lle'n briodol gweithredu pecyn i gefnogi'r anghenion sydd wedi eu nodi yn dilyn asesiadau gofalwyr.
• Cydymffurfio a deddfwriaeth a pholisïau'r Cyngor sydd yn dylanwadu ar y gwaith gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
• Adnabod yr angen am ymyrraeth statudol. Gweithio o fewn gofynion statudol y rôl.
• Dealltwriaeth o gyfyngiadau'r rôl a sut mae'n cysylltu gyda rolau eraill o fewn yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd.
• Ymarfer mewn modd sy'n egwyddorol yn unol â chod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol.
• Cofnodi gwybodaeth a pharatoi adroddiadau yn unol â gofynion y gyfundrefn.
• Cynnal adolygiadau rheolaidd o achosion ac offer a threfnu i'r offer gael ei gasglu petai angen. Cynorthwyo gyda monitro ansawdd y gwasanaeth.
• Sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw drefniadau rheoli risg a adnabyddir mewn asesiadau risg sy'n berthnasol i'r gwaith.
• Bwydo gwybodaeth gyson i mewn i sustemau'r tîm a'u diweddaru.
• Adnabod anghenion nad ydyw'n bosib eu diwallu a bwydo gwybodaeth am hynny i'r asesiad anghenion poblogaeth.
• Cydweithio gyda grwpiau a chymunedau a hybu gwaith ymyrraeth gynnar ac ataliol.
• Darparu gwasanaethau person canolog.
• Datblygu a chynnal gwybodaeth a sgiliau sy'n angenrheidiol i ymarfer.
• Datblygu ymarfer proffesiynol trwy oruchwyliaeth ac adlewyrchu. Cymeryd rhan weithredol mewn sesiynau goruchwylio rheolaidd ac yn y broses werthuso flynyddol.
• Cyflwyno delwedd broffesiynol a gweithio mewn modd hyblyg.
• Dod o hyd i ddatrysiadau i oresgyn rhwystrau. Adrodd ar rwystrau na ellir eu goresgyn yn lleol i'r arweinydd.
• Egluro polisïau codi tal am wasanaethau y Cyngor i bob defnyddiwr gwasanaeth. Cydweithio gyda'r Uned Incwm a Lles i sicrhau fod pob defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn cefnogaeth i wneud cais am gymorth ariannol gan y Cyngor i dalu am eu gwasanaethau.
• Sicrhau bod cytundeb safonol wedi ei gwblhau rhwng y Cyngor a defnyddwyr ar gyfer pob gwasanaeth a ddarperir.
• Bod yn ymwybodol o'r drefn comisiynu ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion. Cyfrannu gwybodaeth a syniadau tuag at ddatblygiad gwasanaethau. Adnabod gwelliannau i brosesau.
• Gweithio mewn tîm aml ddisgyblaethol integredig. Gweithio mewn partneriaeth gyda phroffesiynau eraill ac asiantaethau i hybu amcanion person canolog.
• Cydweithio gyda darparwyr gofal i gomisiynu pecynnau gofal a chefnogaeth lle yn gymwys.
• Sefydlu a chynnal cysylltiadau cadarnhaol gyda darparwyr a chydweithwyr o broffesiynau eraill o fewn y tîm aml ddisgyblaethol.
• Cymeryd rhan mewn trafodaethau ar ofal ac asesiadau aml ddisgyblaethol mewn perthynas ag unigolion penodol ac anghenion cymunedol yn ôl y galw.
• Bod yn rhan o sustem ddyletswydd os a phan fo hynny'n briodol o dan oruchwyliaeth a chefnogaeth
• Tynnu sylw arweinydd tîm at unrhyw achosion a blaenoriaeth neu achosion brys er mwyn cymeryd camau ar unwaith.
• Cymeryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd tîm a chyfarfodydd eraill perthnasol yn ôl yr angen er mwyn cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth.
• Rhoi ystyriaeth i risg, diogelu ac amddiffyn oedolion. Delio ac unrhyw bryderon a godwyd yng nghyswllt amddiffyn oedolion yn brydlon a phriodol drwy ddilyn y weithdrefn a gytunwyd a hysbysu'r swyddogion proffesiynol perthnasol heb oedi.
• Cynorthwyo unigolion i gyflwyno eu hanghenion ac i adnabod y math o ddarpariaeth fyddai'n grymuso i leihau risg i annibyniaeth a hybu llesiant.
• Hyrwyddo, cefnogi a chydweithio gyda chymunedau i ddatblygu gwasanaethau gofal a chefnogaeth.
• Sefydlu a chynnal cysylltiadau cadarnhaol gydag adnoddau cymunedol a darparwyr trydydd sector ac annibynnol. Ymchwilio a chryfhau gwybodaeth am adnoddau cymunedol sydd yn bodoli o fewn yr ardal waith i hybu llesiant dinasyddion.
• Disgwyliad i weithio y tu hwnt i ffiniau ardal waith yn achlysurol -
CYFRIFOLDEBAU ERAILL
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
• Mae ystyriaeth yn cael ei roi i ymestyn oriau agor y gwasanaeth yn ystod yr wythnos ynghyd â gweithio penwythnosau. Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.

Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.