Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
Lleoliad
Sir Gaerfyrddin
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Cyflog
££- 28,598 - £- 32,597 y flwyddyn
Disgrifiad o'r swydd
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2842
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Rhydaman, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd F
Cyflog:
£28,598 - £32,597
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.82 - £16.90
Oriau Contract:
37 Awr
Dewch i ymuno â'n tîm
Ydych chi am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc?
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Caerfyrddin fel Ymarferydd Plant a Theuluoedd. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn ein cymorth i blant a'u teuluoedd i helpu i gadw plant yn ddiogel a chadw teuluoedd gyda'i gilydd.
Rydym yn gwybod y gall cael gafael ar yr help iawn ar yr adeg iawn wneud byd o wahaniaeth i blant a theuluoedd sydd angen cymorth. Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r profiad, y sgiliau a'r tosturi i feithrin perthynas â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, gweithio ochr yn ochr â nhw, a'u helpu i wneud y newidiadau sydd eu hangen ar blant.
Mae gennym weithlu ymroddedig a sefydlog, felly mae'r swydd hon yn gyfle prin i ymuno ag adran lwyddiannus a blaengar a thîm cefnogol.
Os ydych chi'n frwd dros ddilyn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol, gallai'r rôl hon fod yn ddelfrydol i chi.
Mae'n hanfodol gallu teithio o fewn y sir a bydd arnoch angen ymagwedd hyblyg tuag at waith ac oriau gwaith, gan gynnwys gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Mark Johnston, mjohnston@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
019707.pdf - 190KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 18/03/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
• Cyflog cystadleuol • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr