Glyncornel, Llwynypia, Tonypandy CF40 2JF 1 x swydd barhaol rhan-amser – 4 diwrnod yr wythnos Graddfa Soulbury ar gyfer Seicolegwyr Addysg – pwyntiau 2 i 8 a hyd at 3 phwynt SPA (bydd pwyntiau SPA blaenorol yn cael eu hanrhydeddu). Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn carfan amlddisgyblaethol yn rhan o Wasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd y gyfadran Gwasanaethau i Blant, sef y Garfan Teuluoedd Therapiwtig. Eich gwaith fydd darparu cyngor, cyfarwyddyd ac ymyrraethau sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth ochr yn ochr â chydweithwyr gwaith cymdeithasol a therapyddion teulu systemig. Os oes gyda chi'r sgiliau perthnasol ac rydych chi'n brofiadol o ran gweithio gyda phlant a theuluoedd, yn ogystal â meddu ar yr wybodaeth a'r profiad o weithio gyda phobl ifainc sydd wedi dioddef o drawma, hoffen ni glywed gennych chi.
Byddwch chi'n cynorthwyo yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau effeithiol i blant a phobl ifainc, a'u teuluoedd/cynhalwyr (gofalwyr), sy'n wynebu heriau cymhleth, er mwyn ceisio osgoi:
· Derbyn plant a phobl ifainc i wasanaethau gofal yn ddiangen. Cynorthwyo â gwaith dychwelyd y rheiny sydd eisoes yn derbyn gofal i'r cartref.
· Trefniadau'n chwalu o ran lleoli plant a phobl ifainc sydd eisoes yn derbyn gofal ac sy'n methu â lleihau'r gofyn am symud rhwng lleoliadau.
A chithau'n Seicolegydd Addysg Arbenigol, bydd gofyn i chi weithio ledled Rhondda Cynon Taf gyda phlant a phobl ifainc o'r ardal sydd efallai'n byw y tu hwnt i ffiniau'r fwrdeistref. Os ydych chi'n unigolyn sy'n dymuno gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifainc, dyma beth rydyn ni'n ei gynnig i chi:
- Telerau ac amodau gwaith da;
- Cymorth a goruchwyliaeth reolaidd;
- Hyfforddiant pellach a datblygiad pellach parhaus ('DPP') yn ôl yr angen er mwyn cynnig dulliau therapiwtig penodol;
- Gweithio mewn gwasanaeth sy'n recriwtio a chadw staff.
Er bod y swydd yn rhan o Wasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ein cyfadran Gwasanaethau i Blant, bydd cymorth a goruchwyliaeth yn cael eu darparu o Wasanaeth Seicoleg Addysg Integredig Rhondda Cynon Taf/Merthyr Tudful. Bydd hefyd y cyfle gyda chi i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd DPP arbennig sy'n cael eu cynnig gan y garfan yma.
Mae'r gallu i weithio mewn
dull hyblyg o ran oriau gwaith er mwyn bodloni anghenion y gwasanaeth a gweithio mewn modd sy'n cefnogi'r teulu yn hanfodol.
Os ydy'r cymwysterau, sgiliau a phrofiad angenrheidiol gyda chi, hoffen ni glywed oddi wrthoch chi.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch Joanne Silver (Rheolwr Carfan – Arfer a Chyflawniad) neu Matthew Free (Rheolwr y Gwasanaeth) ar 01443 420940.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd âr meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.