Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Yn Seiliedig ar y Gymuned
Tîm: Gwasanaeth Therapiwtig Rhanbarthol "My Support Team" (MyST)
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £42,839 - £46,142 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig a chynorthwyol sy'n angerddol am drawsnewid bywydau plant sy'n byw yn ein Cartrefi Preswyl i Blant yng Nghaerffili.
Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â'n partneriaid ni i ddarparu mewnbwn seicolegol o ansawdd uchel i'r plant a'u rhwydweithiau ehangach nhw. Rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu ymyriadau dwys o ansawdd sy’n canolbwyntio ar werth ac sy'n cynorthwyo iechyd meddwl a lles plant ag anghenion iechyd meddwl cymhleth.
Mae rôl yr Ymarferydd Therapiwtig Arweiniol yn cynnwys gweithio'n uniongyrchol gyda – ac ar y cyd â – plant, eu teuluoedd, gweithwyr gofal preswyl, gweithwyr cymdeithasol, ysgolion, seicolegwyr, yr heddlu ac unrhyw oedolion neu asiantaethau allweddol eraill a allai fod yn rhan o gynorthwyo'r plant.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster proffesiynol Lefel 6 (Gradd) perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
- Y gallu i ymgysylltu a gweithio'n agored ac yn onest gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ac amrywiaeth eang o bartneriaid a gweithwyr proffesiynol.
- Profiad o weithio mewn ffordd therapiwtig gyda phlant a theuluoedd sydd wedi profi trawma ac sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth.
- Trwydded yrru lawn Categori B (ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref i fynd i gyfarfodydd
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rhydian Morris ar 07495672097 neu ebost:
morrir4@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.