Shifftiau Dydd (6.30am - 3pm a 2.30pm - 11pm) Shifftiau Nos (10.30pm - 7am) Swyddfa yn Nhŷ Elái Cyfradd tâl - £12.80 yr awrMae cyfleoedd wedi codi yng Ngharfan Gofal yn y Cartref Rhondda Cynon Taf ar gyfer Ymatebwyr Symudol. Prif swyddogaeth y Gwasanaeth Ymatebwyr Symudol yw darparu ymateb i'r Ganolfan Fonitro Gwifren Achub Bywyd lle mae larwm wedi'i ddefnyddio gan breswylydd. Gall y galwadau amrywio, ond y prif fathau o alwadau rydyn ni'n dod ar eu traws a byddwn ni'n ymateb iddyn nhw yw:
- Person wedi cwympo
- Dim ymateb gan breswylydd
- Angen Cymorth
Prif bwrpas ein gwasanaeth yw sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu byw'n annibynnol yn y cartref yn ddiogel. Ein nod yw cyfyngu ar nifer y galwadau y mae'n ofynnol i Ambiwlans Cymru eu mynychu fel eu bod nhw'n gallu ailgyfeirio at y rhai mwyaf anghenus.
Mae'n ofynnol i staff gysylltu â'r perthynas agosaf, asiantaeth gofal a/neu gwasanaethau brys yr unigolyn i ddarparu cymorth, gofal a chymorth ymarferol sy'n gweithio o fewn cylch gwaith gweithdrefnau gweithredol a darparu diweddariadau i'r Ganolfan Fonitro Gwifren Achub Bywyd.
Bydd gofyn i ddeiliaid y swyddi achlysurol yma weithio pan fydd absenoldebau oherwydd Gwyliau Blynyddol, tostrwydd a diwrnodau hyfforddi ein staff parhaol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant ar gyfarpar arbenigol ac offer rheoli cwympiadau I Stumble.
Rhaid cwblhau ffurflenni mandad fflyd a chynhyrchu trwydded gyrru di-farc gan fod cerbyd cyngor yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaeth yma.
Y patrwm gwaith yw 4 diwrnod yn y gwaith, 4 diwrnod bant, yna 3 diwrnod yn y gwaith 3 diwrnod bant dros rota cylch 8 wythnos. Mae'r rota yma hefyd yn gymwys i'r ymatebwyr nos.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r swyddi yma, cysylltwch â'r swyddfa Gofal yn y Cartref drwy ffonio (01443) 425070 a gofynnwch am Jamie Evans neu'r Goruchwyliwr ar Ddyletswydd.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'i nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi’n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.