Ymgynghorwr Codi a Symud - Tîm Therapi Galwedigaethol
Dyddiad cau 12/10/2025
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithredwr / Gweithiwr Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Gofal Cymdeithasol
Ymgynghorwr Codi a Symud - Tîm Therapi Galwedigaethol
Parhaol, 37 awr yr wythnos
G07 - £31,537 i £33,143
Mae'r swydd hon yn gyfle cyffrous i weithio gyda Therapyddion Galwedigaethol yn y gymuned i fynd i'r afael ag anghenion codi a symud trigolion. Dyma gyfle cyffrous i helpu i siapio dyfodol y Gwasanaeth Atal Integredig a gweithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Iechyd i ddatblygu llwybrau integredig.
Byddwch yn gweithio gyda'r holl ddarparwyr gofal, tîm contractau, cydweithwyr iechyd a gofalwyr anffurfiol, yn cynnwys aelodau'r teulu. Byddwch yn derbyn cefnogaeth a goruchwyliaeth gan Therapyddion Galwedigaethol a fydd yn cynnal asesiadau codi a symud cychwynnol. Bydd disgwyl i chi gynnal ymweliadau dilynol a dangos a rhoi cefnogaeth gyda thechnegau codi a symud os oes angen.
Darperir hyfforddiant ychwanegol i'ch paratoi ar gyfer y swydd megis Symud Pobl ac Asesiadau Risg. Bydd hyfforddiant ychwanegol o ran gofal unigol yn cael ei ddarparu hefyd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cressida Travis neu Joanna Maddison (Rheolwyr Tîm Therapi Galwedigaethol) ar 01978 298003 neu 298008
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.