Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Ymgynghorydd Byw'n Annibynnol
Llawn amser 37 awr yr wythnos - Dros dro a 31/03/2026.
G06 - £27,711 - £29,093
Mae'r Tîm Taliadau Uniongyrchol yn awyddus i recriwtio i swydd Ymgynghorydd Byw'n Annibynnol. Mae'r tîm newydd ei ffurfio ac felly dyma gyfle cyffrous i'r ymgeisydd llwyddiannus i fod yn rhan o ddatblygiad a chynllun y tîm. Mae'r Ymgynghorydd Byw'n Annibynnol yn cynnig gwybodaeth a chyngor i ddinasyddion sy'n ystyried taliad uniongyrchol i gomisiynu eu gofal eu hunain fel yr amlinellir yn eu cynllun gofal a chymorth unigol. Mae'r swydd yn ymwneud â chefnogi dinasyddion i reoli eu taliad uniongyrchol yn effeithiol a phriodol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am:
Gefnogi unigolion ym mhob agwedd o sefydlu a chynnal eu Taliad Uniongyrchol.
Darparu gwasanaeth pwrpasol i bob unigolyn.
Gweithio fel tîm i sicrhau fod cefnogaeth berthnasol yn cael ei darparu i unigolion a staff.
Sicrhau uniondeb a chywirdeb data ar Daliadau Uniongyrchol a systemau CBSW.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ffurflenni cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na ffurflenni cais a gyflwynir yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Swydd Dd... (.doc) (131kb) , Job Desc... (.doc) (127kb)
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr