Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Rheolaeth ganolog
Rôl
Cynghorydd / Trefnydd / Ymchwilydd
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
YMGYNGHORYDD CYSWLLT CYNTAF
G04 £25,583 - £25,989 y flwyddyn
37 awr yr wythnos - Parhaol
Cyfle cyffroes i ymuno gyda'r Tîm Anabledd, Wrecsam.
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth rheng flaen sy'n cynnwys cyswllt uniongyrchol â'r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill, a hynny dros y ffôn, drwy e-bost, mewn llythyrau ac wyneb yn wyneb os bydd angen.
Bydd deiliad y swydd yn casglu gwybodaeth er mwyn sicrhau atgyfeiriadau/ ymholiadau cywir a phriodol i'r tîm, yn darparu gwybodaeth a chyngor sylfaenol ac yn cofnodi'r holl wybodaeth yn gywir ar systemau priodol yr adran.
Dylai fod gennych chi dystiolaeth o'ch profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft, e.e. Word ac Excel, ond yn bwysicaf oll, dylech feddu ar sgiliau llafar, ysgrifenedig, rhifedd, cyfathrebu a threfnu ardderchog.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig swydd o fewn tîm arloesol a deinamig, sy'n darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i drigolion y Fwrdeistref Sirol.
Cysylltwch gyda Rheolwr Tim, Carys West a'r 01978 298511 new e-bost carys.west@wrexham.gov.uk am fwy o manylion.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.