Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Ysgrifennydd i'r Prif Swyddog -
Parhaol, Llawn amser
Graddfa 06 £28,598 - £30,024 y flwyddyn
Bydd y swydd wedi'i lleoli gyda Gofal Cymdeithasol Oedolion ond bydd angen gweithio'n hyblyg ar draws yr Adran Gofal Cymdeithasol, sydd wedi'i lleoli yn Adeiladau'r Goron, Stryt Caer, Wrecsam.
Pwrpas y swydd yw darparu gwasanaeth ysgrifenyddol a chymorth effeithiol ac effeithlon i'r Prif Swyddog a'r Uwch Bennaeth Gwasanaeth (Oedolion)
Yn ogystal â chefnogi rhedeg yr adran yn effeithiol o ddydd i ddydd, prif swyddogaethau'r rôl fydd rheoli Outlook a'r dyddiadur yn effeithlon, amserlennu a chydgrynhoi gwybodaeth ac adroddiadau adrannol, cofnodi cyfarfodydd yn ogystal â gweithredu fel pwynt cyswllt canolog ar gyfer cyfathrebu a chwynion sy'n dod i mewn - i gyd tra'n cynnal lefel uchel o broffesiynoldeb a chyfrinachedd.
Dylai fod gennych dystiolaeth o brofiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft (e.e. Outlook, Word ac Excel), a sgiliau llafar, ysgrifenedig, rhifiadol a chyfathrebu da ond yn bwysicaf oll, dylech feddu ar sgiliau rheoli amser a threfnu rhagorol.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig swydd o fewn tîm arloesol a deinamig, sy'n darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i drigolion y Fwrdeistref Sirol.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg
Ar gyfer ffurflenni cais a manylion eraill cysylltwch â: Lyn Jones ar y Rhif Ffôn: 01978 298254, E-bost: lyn.jones@wrexham.gov.uk