Amodau a theleru cofrestru - Gwobrau Gofalwn gyda'n gilydd
Terminoleg
- Ystyr "y gwobrau" yw Gwobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd
- Ystyr "y trefnydd" yw Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
- Ystyr "chi" yw'r unigolyn sy'n cyflwyno cais
- Ystyr "platfform" yw'r system ar-lein y mae'n rhaid i'r ymgeisydd ei defnyddio i gwblhau ei gais.
Cyflwyno cais
Trwy gofrestru ar gyfer y gwobrau, rydych chi'n cytuno i ymrwymo i'r amodau a’r telerau canlynol:
- Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau ar-lein erbyn 31 o Rhagfyr gan ddefnyddio'r ddolen www.jr-events.co.uk/togetherwecareawards.
- Gallwch gofrestru am ddim ar gyfer pob categori o'r gwobrau.
- Gall unrhyw unigolyn sy'n cynrychioli'r busnes neu'r lleoliad gyflwyno cais. Bydd yr unigolyn sy'n cyflwyno'r cais hefyd yn dod yn gyswllt a chaiff yr holl ohebiaeth gan y trefnydd ynghylch y gwobrau ei chyfeirio ato.
Rydych yn cytino i
- Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r trefnydd ar unwaith am unrhyw newidiadau i'r manylion cyswllt sy'n gysylltiedig â chi neu'r busnes sy'n cyflwyno cais yn ystod y gwobrau.
- Mae'r busnes/lleoliad sy'n ymgeisio'n cydymffurfio â'r holl rwymedigaethau cyfreithiol a thrwyddedu cyfredol a pherthnasol. Mae'r beirniaid yn cadw'r hawl i beidio ag ystyried cais os oes amheuaeth am hyn ac os na ellir cael cadarnhad.
- Mae'r busnes/lleoliad sy'n ymgeisio'n cadarnhau nad yw’n destun unrhyw adolygiadau neu achosion a fyddai'n cael eu hystyried yn rhai negyddol, gan gynnwys achosion troseddol, casglu dyledion, ansolfedd, mynd i ddwylo gweinyddwyr, ymholiadau gan gorff llywodraethu neu unrhyw beth tebyg.
- Gallwch wneud cais am fwy nag un categori.
- Caiff ceisiadau eu hystyried os cânt eu cyflwyno trwy'r platfform a'u cwblhau'n llawn ac os nad ydynt yn fwy na'r uchafswm cyfrif geiriau.
- Mae'r trefnydd yn cadw'r hawl i symud cais i gategori neu sector gwahanol, os ystyrir ei fod yn fwy priodol. Os bydd hyn yn digwydd, rhoddir gwybod i'r busnes yr effeithir arno.
- Rydych yn cytuno i fod yn rhan o unrhyw gyhoeddusrwydd mewn cysylltiad â'r gwobrau. Rydych yn derbyn ac yn cytuno bod y trefnydd yn gallu defnyddio neu gyhoeddi unrhyw ffotograffau, sylwadau neu dystiolaeth a gyflwynir ar unrhyw gam o'r gwobrau drwy unrhyw gyfrwng, gan ildio unrhyw hawliau i daliadau neu i archwilio a chymeradwyo cynnyrch gorffenedig.
Bydd y trefnydd yn
- Gall y trefnydd anfon gohebiaeth atoch drwy e-bost mewn perthynas â'ch cais ar gyfer y gwobrau, e.e. negeseuon i’ch atgoffa am y dyddiad cau ac i’ch atgoffa i gyflwyno eich cais, etc.
- Gall y trefnydd gadw eich manylion cyswllt mewn cronfeydd data i anfon deunydd marchnata a chyfathrebu atoch, gan gynnwys cylchlythyrau, digwyddiadau yn y dyfodol a hyrwyddiadau nad ydynt yn gysylltiedig â'r gwobrau.
- Y wobr a ddarperir gan y trefnydd i bob enillydd fydd tlws.
- Gall enillwyr y gwobrau gyhoeddi eu llwyddiant am gyfnod amhenodol ar yr amod bod y safle, y categori a'r flwyddyn wedi'u nodi yn yr holl gyhoeddusrwydd a deunydd.
- Dim ond y logo penodol a gyflwynir gan y trefnydd y gall enillwyr y gwobrau ei ddefnyddio ac ni allant ei newid mewn unrhyw ffordd, na defnyddio nac addasu unrhyw logo arall sy'n gysylltiedig â'r trefnydd.
- Ni fydd y trefnydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am oedi o ran ceisiadau na cholli ceisiadau o ganlyniad i unrhyw fethiant o ran rhwydwaith, caledwedd gyfrifiadurol neu feddalwedd.
- Os bydd unrhyw anghydfod ynglŷn â meini prawf cymhwysedd y gwobrau, ffurflenni cais, y broses feirniadu, dewis y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol/enillwyr neu unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r gwobrau, bydd penderfyniadau'r trefnydd yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth na thrafodaeth.
- Ni fyddwn yn gallu darparu unrhyw adborth gan y beirniaid, ac mae penderfyniadau'r beirniaid yn derfynol.
- Os bydd eich busnes yn cyrraedd y rhestr fer, byddwch yn derbyn dau docyn am ddim i ddod i'r digwyddiad. Gofynnir i'r enillwyr gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd, a all gynnwys ffotograffiaeth, dyfyniadau ar gyfer y wasg a chyfweliadau radio.