Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 18 Tachwedd a 8 Rhagfyr, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar waith gofal cartref a ailalluogi

Mwy yma

Wini Jones – aelod teulu

Yn wirfoddolwr rheolaidd yn y cartref, dechreuodd cysylltiad Wini â Glan Rhos ar ôl i’w Anti Mary ddod yn breswylydd.

“Symudodd Anti Mary i’r cartref ychydig cyn cyfnod clo COVID-19. Ro’n ni’n gallu siarad efo hi dros Skype, ond roedd cyfnod pan doedd hi’m yn gallu gweld ei theulu wyneb yn wyneb."

“Roedd aelodau staff cyfeillgar yn y cartref, oedd yn gallu siarad Cymraeg, yn hynod bwysig. Rhoddodd gyfle iddi greu perthynas hefo nhw. Mae wedi cael effaith fawr ar safon y gofal yma.

“Dwi ‘di bod yn gwirfoddoli yma hefo Age Cymru ers i’r cartref agor ei ddrysau i ymwelwyr eto ar ôl cyfnodau clo COVID-19. Dwi’n helpu hefo ymwelwyr, yn siarad hefo preswylwyr, ac mae’n rhoi cyfle imi weld Anti Mary.

“Mae’r cartref yn gwneud ymdrech i gynnal gweithgareddau diwylliannol – canu emynau Cymreig traddodiadol a hen ganeuon rhyfel fel ‘It’s a long way to Tipperary’. Mae’n rhoi teimlad o gysondeb, ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfarwydd.”