Ydych chi’n chwilio am swydd newydd, her, neu newid gyrfa? Gallai gweithio mewn gofal fod yn berffaith i chi
Cymerwch gip ar ein porthol swyddi pwrpasol ar gyfer rolau mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Ar ôl i chi ymuno, byddwch yn derbyn diweddariadau am y swyddi gofal sydd ar gael yn eich ardal – beth bynnag yw lefel eich profiad.
Chwiliwch am swyddi yn eich ardal chi
Straeon go iawn gan bobl go iawn
Nid oes ffordd well o wybod a oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i weithio mewn gofal na chlywed gan bobl sy’n gwneud y gwaith ar hyn o bryd. Isod mae detholiad o ffilmiau i chi eu gwylio.
Sharon Jones
Gweithiwr Cymdeithasol
Mae Sharon yn gweithio gydag oedolion sy'n dioddef o salwch meddwl difrifol yng Ngwynedd.
Helen Dobson
Gweithiwr Cymdeithasol
Roedd Helen yn athrawes gyflenwi mewn ysgolion cynradd am ddeng mlynedd ar hugain, ond un diwrnod penderfynodd ei bod eisiau gwneud mwy i wneud gwahaniaeth, felly gwnaeth ei MSc mewn Gofal Cymdeithasol a daeth yn Weithiwr Cymdeithasol.
Nia O'Marah
Cydlynydd Dysgu Ymarfer
Mae Nia O'Marag yn Gweithiwr Cymdeithasol drwy broffesiwn a bellach yn Gydlynydd Dysgu Ymarfer sy'n cefnogi unigolion ar eu siwrna i ddod yn Weithwyr Cymdeithasol.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.