Ydych chi’n chwilio am swydd newydd, her, neu newid gyrfa? Gallai gweithio mewn gofal fod yn berffaith i chi
Cymerwch gip ar ein porthol swyddi pwrpasol ar gyfer rolau mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Ar ôl i chi ymuno, byddwch yn derbyn diweddariadau am y swyddi gofal sydd ar gael yn eich ardal – beth bynnag yw lefel eich profiad.
Chwiliwch am swyddi yn eich ardal chi
Straeon go iawn gan bobl go iawn
Nid oes ffordd well o wybod a oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i weithio mewn gofal na chlywed gan bobl sy’n gwneud y gwaith ar hyn o bryd. Isod mae detholiad o ffilmiau i chi eu gwylio.
Mike Williams
Gweithiwr Gofal Cartref a Rheolwr Cynorthwyol
Mae Mike wedi gweithio mewn gofal ers 12 mlynedd, ac mae ei angerdd yn amlwg i bawb. Yn siaradwr Cymraeg brwd, mae Mike yn credu bod iaith yn chwarae rhan bwysig yn y lleoliad gofal.
Karima Alghmed
Gweithiwr Gofal Cartref
Mae Karima wedi gweithio fel gweithiwr gofal cartref ers 15 mlynedd. Yn wreiddiol o Libya, mae gan Karima radd mewn Daeareg. Fel mam sengl, aeth i ofal yn gyntaf oherwydd rhoddodd yr hyblygrwydd iddi ofalu am ei phlentyn, yn ogystal ag eraill.
Dawn Lancaster a Helen Sullivan
Rheolwr Cangen a Swyddog Recriwtio
Mae Dawn a Helen yn dweud wrthym beth sydd ei angen go iawn i weithio yn y sector gofal a pha gyfleoedd dilyniant sydd ar gael.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.