Ydych chi’n chwilio am swydd newydd, her, neu newid gyrfa? Gallai gweithio mewn gofal fod yn berffaith i chi
Cymerwch gip ar ein porthol swyddi pwrpasol ar gyfer rolau mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Ar ôl i chi ymuno, byddwch yn derbyn diweddariadau am y swyddi gofal sydd ar gael yn eich ardal – beth bynnag yw lefel eich profiad.
Chwiliwch am swyddi yn eich ardal chi
Straeon go iawn gan bobl go iawn
Nid oes ffordd well o wybod a oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i weithio mewn gofal na chlywed gan bobl sy’n gwneud y gwaith ar hyn o bryd. Isod mae detholiad o ffilmiau i chi eu gwylio.
Helen Greenwood
Arweinydd Meithrinfa
Mae Helen yn Arweinydd Meithrinfa yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl ac mae hi’n frwdfrydig dros addysgu’r genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol i helpu’r plant i ddysgu, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn amgylchedd diogel ac addas i bawb.
Amanda Calloway
Gwarchodwr Plant
Ar ôl cael plant, roedd Amanda eisiau symud 'mlaen o’i gyrfa mewn bancio. Dewisodd fod yn warchodwr plant oherwydd yr hyblygrwydd. Ochr yn ochr â’i gyrfa fel gwarchodwr plant, gan weithio o gartref, astudiodd Amanda am radd yn y Blynyddoedd Cynnar a chymhwyster rheoli Lefel 5.
Catrin Jones Williams
Camau Bach Mudiad Meithrin
Darparu gofal tosturiol a meddylgar i blant meithrin yw angerdd a phwrpas Catrin.
Gan ddisgrifio ei rôl fel braint, mae rheolwr Camau Bach yn esbonio sut y cyflymodd ei phrentisiaeth ei gyrfa a'i galluogi i drosglwyddo i rôl gofal uwch.
Wedi'i gyrru gan ymroddiad gwirioneddol i ofalu am blant a'u teuluoedd, gwnaeth Catrin gydnabod bod angen iddi adnewyddu ei set sgiliau presennol i weddu i leoliad meithrinfa ac ymgymerodd â Phrentisiaeth Lefel 3.
Darparodd yr hyfforddiant gefndir mewn addysg feithrin iddi a rhoddodd y sgiliau angenrheidiol iddi gefnogi ei thîm.
Mae ei hysfa i wneud gwahaniaeth a’i hagwedd ymroddedig yn gwneud Catrin yn ased i’r sector gofal.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.