fbpx
Skip to main content

Cystadleuaeth Instagram
Plant Gofalwn

Ydych chi’n adnabod tîm gofal plant, darparwr chwarae neu warchodwr plant yng Nghymru sy’n haeddu cael eu cydnabod am eu hymdrechion? Cymerwch ran yn ein cystadleuaeth newydd.

Darganfydda yrfa mewn gofal!

Os wyt ti’n angerddol am adeiladu gyrfa mewn gofal, gall dy swydd nesaf fod un clic i ffwrdd. P’un a wyt ti’n newydd i’r sector, neu’n edrych i symud i fyny’r ysgol, darganfydda swyddi yn dy ardal a gwna wahaniaeth.

Wythnos Gofalwn Cymru
11-17 Hydref

Bydd Wythnos Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Gofal Plant. Yn adeiladu dyfodol eich plentyn a’ch un chi.

Dros yr wythnosau nesaf, rydym yn dathlu sut mae gweithwyr a lleoliadau Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar yn rhoi’r dechrau gorau i gymaint o blant ledled Cymru.

Oes gennyt yr hyn sydd ei angen?

Cymer gipolwg ar sut beth yw gweithio mewn gofal gyda’n hadnodd dysgu ar-lein newydd. Bydd modd i ti wylio fideos o senarios gofal cymdeithasol bywyd go iawn ac ateb cwestiynau ynghylch sut y byddet ti’n ymateb yn y sefyllfaoedd hyn i ddarganfod a yw gyrfa mewn gofal yn iawn i ti.

Ydych chi’n chwilio am swydd newydd, her, neu newid gyrfa? Gallai gweithio mewn gofal fod yn berffaith i chi.

Cymerwch gip ar ein porthol swyddi pwrpasol ar gyfer rolau mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Ar ôl i chi ymuno, byddwch yn derbyn diweddariadau am y swyddi gofal sydd ar gael yn eich ardal – beth bynnag yw lefel eich profiad.

Chwiliwch am swyddi yn eich ardal chi

 

 

Straeon go iawn gan bobl go iawn

Nid oes ffordd well o wybod a oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i weithio mewn gofal na chlywed gan bobl sy’n gwneud y gwaith ar hyn o bryd. Isod mae detholiad o ffilmiau i chi eu gwylio.

Newydd

Nel Owen
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref

Gweithiodd Nel ar fferm am 13 mlynedd cyn newid gyrfa a dod yn Weithiwr Cymorth Gofal Cartref, yn gofalu am bobl yn ei chymuned.

Dysgu mwy

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Chwilio