Ydych chi’n chwilio am swydd newydd, her, neu newid gyrfa? Gallai gweithio mewn gofal fod yn berffaith i chi
Cymerwch gip ar ein porthol swyddi pwrpasol ar gyfer rolau mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Ar ôl i chi ymuno, byddwch yn derbyn diweddariadau am y swyddi gofal sydd ar gael yn eich ardal – beth bynnag yw lefel eich profiad.
Chwiliwch am swyddi yn eich ardal chi
Straeon go iawn gan bobl go iawn
Nid oes ffordd well o wybod a oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i weithio mewn gofal na chlywed gan bobl sy’n gwneud y gwaith ar hyn o bryd. Isod mae detholiad o ffilmiau i chi eu gwylio.
Amy
Gofalwr
Mae Amy yn gweithio mewn cartref preswyl yn Ynys Môn ac yn trafod pwysigrwydd defnyddio'r Gymraeg yn ei gwaith a sut fod unrhyw lefel o'r Gymraeg yn fantais fawr i'r sector gofal.
Catrin Jones Williams
Camau Bach Mudiad Meithrin
Darparu gofal tosturiol a meddylgar i blant meithrin yw angerdd a phwrpas Catrin.
Gan ddisgrifio ei rôl fel braint, mae rheolwr Camau Bach yn esbonio sut y cyflymodd ei phrentisiaeth ei gyrfa a'i galluogi i drosglwyddo i rôl gofal uwch.
Wedi'i gyrru gan ymroddiad gwirioneddol i ofalu am blant a'u teuluoedd, gwnaeth Catrin gydnabod bod angen iddi adnewyddu ei set sgiliau presennol i weddu i leoliad meithrinfa ac ymgymerodd â Phrentisiaeth Lefel 3.
Darparodd yr hyfforddiant gefndir mewn addysg feithrin iddi a rhoddodd y sgiliau angenrheidiol iddi gefnogi ei thîm.
Mae ei hysfa i wneud gwahaniaeth a’i hagwedd ymroddedig yn gwneud Catrin yn ased i’r sector gofal.
Helen Greenwood
Arweinydd Meithrinfa
Mae Helen yn Arweinydd Meithrinfa yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl ac mae hi’n frwdfrydig dros addysgu’r genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol i helpu’r plant i ddysgu, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn amgylchedd diogel ac addas i bawb.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.