1
00:00:00,000 --> 00:00:01,567
Helen Greenwood ydw i
2
00:00:01,607 --> 00:00:04,727
ac rydw i'n rhedeg Ysgol Feithrin Pontypŵl.
3
00:00:04,787 --> 00:00:06,867
Un o'r pethau gorau am weithio fan hyn
4
00:00:06,887 --> 00:00:09,060
ydy bod yna amrywiaeth yma.
5
00:00:09,093 --> 00:00:10,587
Yn amlwg, 'dyn ni ddim yn gadael
6
00:00:10,613 --> 00:00:12,307
yr un teganau allan drwy'r amser,
7
00:00:12,333 --> 00:00:14,227
so 'dyn ni'n cael cyfle pob tymor
8
00:00:14,253 --> 00:00:17,080
i roi pethau i ffwrdd a thynnu pethau allan
9
00:00:17,093 --> 00:00:19,193
a siarad gyda'r plant ynglŷn â
10
00:00:19,213 --> 00:00:21,623
beth maen nhw eisiau yn y gornel chwarae.
11
00:00:21,683 --> 00:00:24,157
Ti'n gallu ffeindio coch? Ar oren hefyd!
12
00:00:24,190 --> 00:00:26,917
Yn amlwg mae pob math o ymchwil
13
00:00:26,930 --> 00:00:29,070
wedi cael ei wneud ar hyd y blynyddoedd
14
00:00:29,090 --> 00:00:31,563
sy'n dangos bod plant bach yn dysgu
15
00:00:31,570 --> 00:00:33,070
ail iaith yn hynod o gyflym.
16
00:00:33,090 --> 00:00:38,177
Bore da ffrindiau. Da iawn!
17
00:00:38,217 --> 00:00:41,283
Mae'n hynod o bwysig bod rhan fwyaf o'r staff
18
00:00:41,303 --> 00:00:43,143
naill a'i yn rhugl yn y Gymraeg
19
00:00:43,203 --> 00:00:44,910
neu yn dysgu Cymraeg
20
00:00:44,950 --> 00:00:48,983
ac yn barod i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r plant.
21
00:00:49,037 --> 00:00:50,823
I fi mae'n bwysig
22
00:00:50,863 --> 00:00:53,150
achos maen nhw'n dechrau dysgu nawr
23
00:00:53,170 --> 00:00:55,017
ac maen nhw fel sbwng.
24
00:00:55,050 --> 00:00:57,837
Maen nhw'n cymryd popeth i mewn ar hyn o bryd.
25
00:00:57,857 --> 00:01:00,517
Menig a'r het...
26
00:01:00,530 --> 00:01:03,370
Wel, ma' fe'n bopeth i ni fel teulu
27
00:01:03,410 --> 00:01:05,317
sy'n siarad Cymraeg gartref.
28
00:01:05,330 --> 00:01:06,903
Ma' fe'n bwysig bod merch ni
29
00:01:06,928 --> 00:01:08,663
sy'n mynd i'r ysgol feithrin fan hyn
30
00:01:08,690 --> 00:01:11,190
yn gallu cael addysg trwy ei mamiaith
31
00:01:11,210 --> 00:01:12,997
a'r ffaith ei bod hi'n gallu gweld
32
00:01:13,010 --> 00:01:14,970
bod yr iaith yn fyw
33
00:01:15,037 --> 00:01:16,803
ac yn rhywbeth mae'n gallu defnyddio pob dydd.
34
00:01:16,817 --> 00:01:20,517
Curo'n dwylo. Curo'n dwylo.
35
00:01:20,537 --> 00:01:24,157
Yn bendant, hoffwn i weld mwy o bobl yn ystyried
36
00:01:24,170 --> 00:01:28,243
dod i weithio mewn cylchoedd meithrin yn y gymuned.
37
00:01:28,257 --> 00:01:30,117
Y peth gorau wnes i yn fy mywyd erioed.
38
00:01:30,130 --> 00:01:34,490
Mae wedi bod yn wych yma.
39
00:01:35,177 --> 00:01:38,070
Dysgwch fwy ar Gofalwn.cymru