Ydych chi’n chwilio am swydd newydd, her, neu newid gyrfa? Gallai gweithio mewn gofal fod yn berffaith i chi
Cymerwch gip ar ein porthol swyddi pwrpasol ar gyfer rolau mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Ar ôl i chi ymuno, byddwch yn derbyn diweddariadau am y swyddi gofal sydd ar gael yn eich ardal – beth bynnag yw lefel eich profiad.
Chwiliwch am swyddi yn eich ardal chi
Straeon go iawn gan bobl go iawn
Nid oes ffordd well o wybod a oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i weithio mewn gofal na chlywed gan bobl sy’n gwneud y gwaith ar hyn o bryd. Isod mae detholiad o ffilmiau i chi eu gwylio.
Amy
Gofalwr
Mae Amy yn gweithio mewn cartref preswyl yn Ynys Môn ac yn trafod pwysigrwydd defnyddio'r Gymraeg yn ei gwaith a sut fod unrhyw lefel o'r Gymraeg yn fantais fawr i'r sector gofal.
Keneuoe Morgan
Dirprwy Reolwr Cartref Preswyl
Un o Lesotho yw Keneuoe yn wreiddiol. Symudodd i'r Bala ym 1997 a dechrau gweithio i Gyngor Gwynedd, lle manteisiodd ar y cyfle i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan feistroli'r iaith yn y flwyddyn 2000. Mae Keneuoe bellach yn gweithio mewn cartref gofal, gan gefnogi pobl â dementia ac anghenion cymhleth.
Mae hyrwyddo hawliau pobl a chanolbwyntio ar yr unigolyn a'r hyn sy'n bwysig iddo yn rhan hanfodol o rôl Keneuoe. Drwy gyfathrebu â phreswylwyr yn yr iaith y maen nhw’n ei dewis, mae Keneuoe yn gallu meithrin perthynas â nhw a'u cefnogi, sy'n eu helpu i gynnal eu llesiant.
Helen Greenwood
Arweinydd Meithrinfa
Mae Helen yn Arweinydd Meithrinfa yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl ac mae hi’n frwdfrydig dros addysgu’r genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol i helpu’r plant i ddysgu, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn amgylchedd diogel ac addas i bawb.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.