Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 18 Tachwedd a 8 Rhagfyr, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar waith gofal cartref a ailalluogi

Mwy yma

Stori Claire – Swyddog Diogelwch

Cyflwyniad

Gadewais yr ysgol a dechrau mewn swydd adwerthu, ond ni feddyliais erioed ei bod yn yrfa hirdymor i mi. Deuthum ar draws rôl gweithiwr gofal dydd a dechreuais weithio’n rhan amser rhwng 4 a 6pm bob dydd i ddechrau. Mwynheais weithio gyda’r plant, yn araf bach cynyddais fy oriau i amser llawn. Cwblheais fy NVQ lefel 3 mewn gofal dydd preifat tra’n gweithio. Dros 14 mlynedd yn ôl, dechreuais gyda thîm Dechrau’n Deg, a symud ymlaen i fod yn Swyddog Diogelwch.

Ar ôl profi gwahanol fathau o waith gofal, sylwais fod gofal plant a gofal cymdeithasol yn cael eu sefydlu’n wahanol, ond mae’r ddau yn yrfaoedd gwerth chweil.

Mae’r gwerthoedd sydd eu hangen i weithio mewn gofal yn cynnwys:

  • Tosturi
  • Parch
  • Anfeirniadol
  • Teulu/person yn ganolog.

Fy rôl

Rwy’n derbyn atgyfeiriad gan asiantaeth allanol, yna byddaf yn gwneud apwyntiad i weld y teulu. 

Rwy’n cynnal adolygiad diogelwch, gan symud o ystafell i ystafell yn siarad am risgiau a pheryglon posibl. Eu cysylltu ag oedran a datblygiad y plentyn. Rydym yn trafod atebion  diogel ac rwy’n cynnig offer diogelwch am ddim.

Rydym yn datblygu cynllun gweithredu gyda nodau mesuradwy ac yna’n cyfeirio at  asiantaethau eraill os oes angen.

Mae’n werth gwylio’r teuluoedd yn datblygu a chydnabod y newid ynddynt eu hunain. Dysgu sut i reoli amgylchedd eu cartref, i’w wneud yn ddiogel.

Mae rhai teuluoedd rwy’n gweithio gyda nhw mewn argyfwng, felly rwy’n adeiladu perthynas gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu a gwrando gweithredol.

Mae gofal cymdeithasol yn rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu, cyflogaeth hirdymor a gyrfa werth chweil. Wnes i erioed sylweddoli faint o bobl oedd yn defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.

Mae gofal cymdeithasol yn golygu i mi, gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd wir ei angen.

Cyfeirio at CBAC – TGAU Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

  • Rhan 1.1: Twf a datblygiad Dynol.
  • Rhan 1.3: Ymyrraeth Gynnar, ac atal.
  • Rhan 2.3: Risgiau i iechyd a lles.

Cymorth athrawon

  1. Rhestrwch bum cam bywyd twf a datblygiad.
  2. Pam mae ymlyniad diogel gyda gofalwyr yn bwysig i blant?
  3. Meddyliwch am eitem a allai fod yn anniogel i blentyn a geir mewn cartref? (Er enghraifft, batri bach).
  4. Pwy fyddai’n gweithio mewn partneriaeth â Claire?

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos ysgrifenedig hon fel PDF

PDF
251 KB