Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

28 Ebrill 2022

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau 2022

Cyflwynwyd gwobrau i saith enillydd yn y seremoni Gwobrau 2022 eleni a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddydd Iau, 21 Ebrill. Cafodd y gwobrau eu harwain gan y darlledwr enwog, Garry Owen ac Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sue Evans.

Derbyniwyd mwy na 70 o geisiadau ac enwebiadau o bob cwr o Gymru ar gyfer gwobrau 2022. Fe wnaeth panel o feirniaid arbenigol eu cwtogi i restr fer derfynol o 14 prosiect a 10 gweithiwr gofal.

Roedd y beirniaid yn cynnwys aelodau o’n Bwrdd, cynrychiolwyr o sefydliadau ar draws y meysydd gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant, a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.

Categorïau ac enillwyr Y Gwobrau:

Gwobr Gofalwn Cymru

Enillydd: Keri Llewellyn, Rheolwr All Care (De Cymru) Ltd

Mae Keri yn rheoli asiantaeth gofal cartref breifat ym Mro Morgannwg. Cafodd ei henwebu am ei hymrwymiad i wella bywydau pobl hŷn a dinasyddion agored i niwed yn y gymuned.

Yn ogystal â bod yn rheolwr gofal cartref, sefydlodd Keri Care Communities Acting Together (CCAT) er mwyn helpu i ddod â phobl at ei gilydd i gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd. Mae wedi trefnu cinio Nadolig, pantomeimau, te prynhawn a ‘diwrnodau rasio’, heb dderbyn unrhyw arian ychwanegol.

Yn ogystal â’i gwaith gyda CCAT, mae gan Keri rôl arwain hefyd ac mae hi’n cynrychioli’r sector gofal ar ystod eang o bwyllgorau, gan hyrwyddo statws gweithwyr gofal, gwella ansawdd gofal cartref a sicrhau bod pobl yn ganolog i’r holl benderfyniadau a wneir am eu gofal.

Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg

Enillydd: Alaw Pierce, Rheolwr Gwasanaeth yng Nhyngor Sir Ddinbych

Disgrifiwyd Alaw, a gafodd ei henwebu ar gyfer y wobr am ei gwaith yn hyrwyddo hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, fel “esiampl” i staff. Drwy gydol ei gyrfa, mae Alaw wedi cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac wedi annog diwylliant lle gall staff ddefnyddio’r Gymraeg yn gyfforddus yn y gwaith.

Mae Alaw wedi llwyddo i recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg i swyddi allweddol ac mae wedi hyrwyddo hawliau pobl hŷn i dderbyn asesiadau ‘lles pennaf’ yn Gymraeg.

Mae’r Cynghorydd Arwel Roberts, Hyrwyddwr Anabledd Cyngor Sir Ddinbych, yn disgrifio Alaw fel un sydd wedi “gweithio’n ddiflino dros y Gymraeg o fewn yr adran gwasanaethau cymdeithasol”.

Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd

Enilydd: Adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent am y prosiect ‘BG Hub’

Mae’r prosiect yn cefnogi plant rhwng 14 i 18 oed sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys plant y mae angen eu diogelu a phlant sy’n derbyn gofal. Mae’r prosiect wedi creu gofod enfawr dan do ac yn yr awyr agored i blant, ac mae’n hyrwyddo gwaith grŵp, datblygiad a sgiliau byw’n annibynnol.

Cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia

Enilydd: Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro am y prosiect ‘Cymunedau Cefnogol Dementia’

Mae’r prosiect yn ceisio gwella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r prosiect wedi creu rhwydwaith o grwpiau cefnogi dementia i helpu pobl sy’n byw gyda dementia i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl, teimlo’n rhan o’u cymunedau a theimlo’n hyderus, eu bod yn cael eu deall a’u parchu, ac i barhau i fwynhau eu hobïau a’u diddordebau.

Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu

Enilydd: Adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am y prosiect ‘Attitude for Gratitude’

Sefydlwyd y prosiect gan Aloma Jones, rheolwr tîm anabledd dros 25 oed yr adran. Fel rhywun a oedd yn poeni am lesiant staff, aeth Aloma ati i gynllunio sesiynau wythnosol lle’r oedd staff yn dysgu sut i ymarfer diolchgarwch ac i rannu eu teimladau ag eraill. Mae hyn wedi helpu i hyrwyddo llesiant meddyliol ac mae wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar y tîm.

Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Enilydd: Adran gofal cymdeithasol a thai Cyngor Sir Penfro am y ‘Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro’

Mae’r rhaglen yn annog pobl ag anabledd i anelu at weithio. Mae’n darparu swyddi â chymorth mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, o gaffis i weinyddu busnes, ac o gynnal a chadw tiroedd i’r cyfryngau cymdeithasol. Ym mhob achos, mae pobl yn cael eu cefnogi’n llawn yn eu swyddi.

Recriwtio a chadw staff yn effeithiol

Enilydd:  Seren Support Services

Mae Seren Support Services yn darparu amrywiaeth o wasanaethau byw â chymorth a gofal cartref i oedolion sy’n byw yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Gan weithredu ar yr adborth a dderbyniwyd gan staff, mae’r gwasanaeth wedi dod yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig ac mae’n gwobrwyo staff sy’n dangos ymrwymiad i’r cwmni a’u datblygiad gyrfaol. Mae hefyd yn cynnal arolwg staff ddwywaith y flwyddyn ac mae wedi sefydlu fforwm lle gall staff ddweud eu dweud am benderfyniadau’r cwmni.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.