Neidio i'r prif gynnwys

Dave, Gweithiwr Cymdeithasol a Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP).

Fy nhaith i ofal cymdeithasol

Dechreuodd fy mhrofiad cyntaf o ofal cymdeithasol gartref. Cefais fy magu mewn cartref preswyl bach i bobl ag anableddau dysgu, a redir gan fy rhieni. Roedd yn fwy na gweithle - roedd yn gymuned. Hefyd, treuliais i amser mewn cartref gofal preswyl awdurdod lleol cyfagos, lle'r oedd 22 o bobl yn byw. Fel person ifanc, byddwn yn aml yn defnyddio eu hystafell gemau, gan ffurfio cysylltiadau cynnar â'r bobl a'r amgylchedd a fyddai'n llunio fy ngyrfa hwyrach ymlaen.

Yn y 1990au, es i'r brifysgol i astudio patholeg fforensig. Ar ôl cwblhau fy ngradd, dychwelais adref a chefais alwad gan ganolfan ddydd yn gofyn a allwn i weithio gan oedd aelod o’u staff yn sal. Dywedais mi fyswn - ac arhosais. Arweiniodd y cyfle hwnnw fi i ddod yn gynorthwyydd gofal, ac yn raddol gweithiais fy ffordd i fyny trwy wahanol rolau.

Ymunais â thîm cymunedol yn yr adran anableddau fel cynorthwyydd gwaith cymdeithasol, ac yn ddiweddarach dilynais fy ngradd gwaith cymdeithasol, gan gymhwyso yn 2015. Ni stopiodd fy angerdd dros ddysgu yno - cwblheais fy Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Ymarferwyr Profiadol (CPEL) a dod yn addysgwr ymarfer. Yna awgrymodd cydweithiwr y dylwn ystyried rôl AMHP, a agorodd bennod newydd yn fy ngyrfa.

Rôl Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) yng Nghymru

Fel AMHP, rwy'n gweithio o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl i asesu unigolion a allai fod angen cymorth iechyd meddwl brys, gan gynnwys cadw rhywun yn yr ysbyty o bosibl er eu diogelwch eu hunain neu ddiogelwch eraill. Mae'n rôl sy'n gofyn am dosturi, meddwl beirniadol, a dealltwriaeth ddofn o gyfraith iechyd meddwl.

Yn wahanol i'm gwaith hirdymor mewn gwasanaethau anabledd, mae dyletswyddau AMHP yn fyrdymor ond yn hynod effeithiol. Rwy'n gwrando ar straeon pobl, yn asesu risgiau fel hunan-niweidio neu gario arfau, yn gwerthuso eu rhwydweithiau cymorth, ac yn helpu i lunio cynllun sy'n cydbwyso gofal a diogelwch. Mae'n broses gwneud penderfyniadau sensitif - p'un a ddylid cadw rhywun neu ddod o hyd i gymorth amgen.

Sgiliau a rhinweddau sy'n llunio fy ymarfer

Mae'r gwaith hwn wedi fy nysgu i fod yn:

  • Agored fy meddwl ac yn chwilfrydig - bob amser yn ceisio deall y darlun llawn.
  • Amyneddgar a gwydn - yn enwedig mewn sefyllfaoedd llawn emosiwn.
  • Cyfathrebwr cryf - gyda ffocws ar wrando gweithredol.
  • Gweithiwr proffesiynol cydweithredol - yn gweithio ar draws asiantaethau i sicrhau'r canlyniadau gorau.
  • Meddylgar a phenderfynol - yn pwyso a mesur gwybodaeth gymhleth i wneud dewisiadau gwybodus.

Roedd un achos cofiadwy yn ymwneud ag asesu person 18 oed a oedd yn profi sgitsoffrenia difrifol. Roedd yn dorcalonnus gweld rhywun mor ifanc mewn trallod, ond roedd ganddynt rwydwaith cymorth teuluol cryf. Ar ôl arhosiad byr yn yr ysbyty i'w arsylwi, dychwelsant i addysg ac maent bellach yn ffynnu. Mae eiliadau fel y rhain yn fy atgoffa pam mae'r gwaith hwn yn bwysig.

Cyfeiriadau at CBAC

  • Rhan 1.2 Deall iechyd a lles.
  • Rhan 1.3 Ymyrraeth gynnar ac atal.
  • Rhan 2.1 darpariaeth gofal yng Nghymru.

Cwestiynau cymorth dysgu ar gyfer astudio.

Dyma rai cwestiynau myfyriol y gall dysgwyr eu defnyddio i ddyfnhau eu dealltwriaeth:

  1. Pa brofiadau cynnar all ddylanwadu ar benderfyniad rhywun i weithio ym maes gofal cymdeithasol?
  2. Sut mae rôl Gweithiwr Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) yn wahanol i rolau gofal cymdeithasol eraill?
  3. Pam mae gwrando gweithredol yn bwysig mewn asesiadau iechyd meddwl?
  4. Sut mae gweithio amlasiantaethol o fudd i unigolion sy'n derbyn gofal?
  5. Beth mae stori Dave yn ei ddysgu i ni am wydnwch a dysgu gydol oes?

Dysgwch fwy am rôl AMHP a phroffesiynau eraill

Fel Gweithiwr Cymdeithasol, eich nod chi fydd gwella bywydau pobl. Mae gwaith cymdeithasol yn broffesiwn sy’n cefnogi, yn awdurdodi a diogelu’r oedolion a phlant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.