Cael swydd mewn gofal cymdeithasol
Ydych chi’n barod am yr her? Dysgwch fwy o’r astudiaethau achos isod.
Uchenna Chukwuoma
Cynorthwy-ydd Gofal
Daeth Uchenna o Nigeria i ddechrau gweithio fel gyrrwr danfon nwyddau oherwydd ei fod yn mwynhau siarad â phobl. Ond ar ôl iddo ddarganfod gwefan Gofalwn Cymru, fe ddechreuodd ei yrfa fel gweithiwr gofal ac mae’n defnyddio ei sgiliau pobl i wella bywydau’r rhai sydd yn ei ofal.
Lisa Newall
Mae Lisa yn gweithio i Hyfforddiant Gogledd Cymru fel asesydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Cwblhaodd Lisa ei chymhwyster prentisiaeth ac mae hi bellach yn annog pobl eraill i ddilyn yr un llwybr amhrisiadwy.
Keneuoe Morgan
Dirprwy Reolwr Cartref Preswyl
Un o Lesotho yw Keneuoe yn wreiddiol. Symudodd i'r Bala ym 1997 a dechrau gweithio i Gyngor Gwynedd, lle manteisiodd ar y cyfle i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan feistroli'r iaith yn y flwyddyn 2000. Mae Keneuoe bellach yn gweithio mewn cartref gofal, gan gefnogi pobl â dementia ac anghenion cymhleth.
Mae hyrwyddo hawliau pobl a chanolbwyntio ar yr unigolyn a'r hyn sy'n bwysig iddo yn rhan hanfodol o rôl Keneuoe. Drwy gyfathrebu â phreswylwyr yn yr iaith y maen nhw’n ei dewis, mae Keneuoe yn gallu meithrin perthynas â nhw a'u cefnogi, sy'n eu helpu i gynnal eu llesiant.
Naomi Lovesay
Cyngor Sir Fynwy
Yn 2019, helpodd Naomi i lansio’r Cynllun Prentisiaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd o fewn Cyngor Sir Fynwy i greu llwybr ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal.
Defnyddiodd Naomi ei phrofiad ei hun o astudio fel ffisiotherapydd i greu dull lleoliad cylchdro fel y gallai prentisiaid gael profiad mewn amrywiaeth eang o rolau i’w helpu i ddod o hyd i’r proffesiwn cywir ar eu cyfer o fewn gofal.
Emily Free
Myfyriwr Gweithiwr Cymdeithasol (cyn Brentis)
Ar ôl cwblhau ei gradd israddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg, gwnaeth Emily gais am brentisiaeth mewn gofal cymdeithasol i ddod o hyd i yrfa lle gallai wneud gwahaniaeth.
Er nad oedd ganddi unrhyw brofiad blaenorol yn y sector, rhoddodd y brentisiaeth amgylchedd dysgu ymarferol a meithringar i Emily lle gallai gysgodi gweithwyr proffesiynol profiadol ac uwch ymarferwyr.
Ar ôl cwblhau ei phrentisiaeth, cofrestrodd Emily ar radd Meistr mewn Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd gyda'r gobaith o gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol.
Callum Fennell
Prentis
Ar ôl cael trafferth ymgysylltu â’r ysgol, cafodd Callum gefnogaeth i gymryd lleoliad mewn cartref gofal lleol lle gwnaeth ei barch a’i ofal dros breswylwyr ef yn ymgeisydd perffaith ar gyfer prentisiaeth mewn gofal cymdeithasol.
Mae hyder Callum wedi parhau i dyfu wrth iddo symud ymlaen trwy ei gymhwyster lle mae wedi cael ei gefnogi gan fentor personol sy’n gallu teilwra ei gyfrifoldebau i gynnwys gofal mwy cymhleth fel argyfyngau pan fydd yn barod.
Er gwaethaf yr heriau, mae balchder a boddhad Callum yn ei waith wedi’i wreiddio yn y gwerthfawrogiad a’r diolchgarwch a ddangosir gan y preswylwyr y mae’n gofalu amdanynt.
Mewn llythyr mewn llawysgrifen gan un preswylydd, fe’i disgrifiwyd fel “gofalwr a aned”.
Sharon Jones
Gweithiwr Cymdeithasol
Mae Sharon yn gweithio gydag oedolion sy'n dioddef o salwch meddwl difrifol yng Ngwynedd.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.