Fel rheolwr, byddwch yn gyfrifol am ansawdd, darpariaeth a chynaliadwyedd cyffredinol eich lleoliad.
Cylch Meithrin (Gofal dydd sesiynol neu dan oed ysgol)
Mae grwpiau Chylchoedd Meithrin yn darparu profiadau chwarae, dysgu a datblygu o safon i blant rhwng dwy a phedair oed.

Gwybodaeth am Cylchoedd Meithrin
Cyfeirir at Cylchoedd Meithrin hefyd fel ‘Gofal Sesiynol’. Maent yn darparu profiad safonol o chwarae, dysgu a datblygu i blant rhwng dwy a phedair oed. Fel arfer, darperir pob sesiwn am hyd at bedair awr y dydd ac mae’r plant sy’n dod i’r sesiynau’n yn cael eu cefnogi i ddysgu drwy chwarae a chymryd rhan weithredol.
Cylchoedd Chwarae cyfrwng Cymraeg yw Cylchoedd Meithrin, sy’n ceisio hyrwyddo addysg a datblygiad plant a darparu addysg cyfrwng Cymraeg i’r plant er mwyn iddyn nhw fod yn ddwyieithog.
Rheoleiddio cymorth yn y cartref
Mae’n ofynnol i Cylchoedd Meithrin yng Nghymru fodloni’r safonau gofynnol a nodir ac a orfodir gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Archwilio rhai rolau y gallwch chi eu gwneud mewn Cylchoedd Chwarae a Chylchoedd Meithrin
Fel Ymarferydd neu Uwch-ymarferydd, byddwch yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd i blant mewn rôl oruchwylio, neu mewn rôl sydd ddim yn cael ei goruchwylio. Byddai’r Ymarferwyr Cynorthwyol yn darparu gofal dydd i blant mewn rôl sydd ddim yn cael ei goruchwylio.