Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 18 Tachwedd a 8 Rhagfyr, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar waith gofal cartref a ailalluogi

Mwy yma

Gwarchodwr Plant

Fel Gwarchodwr Plant cofrestredig, byddwch yn darparu gofal ar gyfer plant dan 12 oed am fwy na dwy awr y dydd yn eich cartref eich hun.

Bod yn Warchodwr Plant

Byddwch yn hunangyflogedig ac yn gyfrifol am redeg eich busnes eich hun. Mae hyn yn cynnwys bodloni gofynion cyfreithiol. Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a bydd disgwyl i chi baratoi gwaith papur.

Byddwch yn darparu amgylchedd diogel, hwyliog ac ysgogol, ac yn cefnogi chwarae, dysgu a datblygiad plant drwy weithgareddau a phrofiadau.

Dechrau arni fel Gwarchodwr Plant

Byddwch yn gyfrifol am gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), cwblhau gwiriad DBS a chael yswiriant. Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig grantiau dechrau busnes i helpu i sefydlu eich busnes gwarchod plant ac mae rhagor o arweiniad ar gael gan PACEY.

I lwyddo yn y swydd hon, bydd angen y rhinweddau canlynol arnoch chi:

  • mwynhau gweithio gyda phlant
  • natur ofalgar ac amyneddgar
  • agwedd hyblyg ac addasadwy
  • sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
  • dychymyg a chreadigrwydd
  • y gallu i gadw cofnodion cywir.

Efallai yr hoffech chi ystyried y rhaglen Cyflwyniad i Ofal Plant sy’n ymdrin â’r hanfodion sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Cymwysterau gofynnol

Gallwch ddod o hyd i’r cymwysterau sydd eu hangen neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y rôl hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Rhaglen hyfforddi

Mae'r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Plant yn cyflwyno mewydd craidd sydd ei hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal plant.