Neidio i'r prif gynnwys

Nani

Mae nanis yn darparu gofal i un neu fwy o blant yn y cartref teuluol fel gwasanaeth.

Bod yn Nani

Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â’r teulu, gan fod yn gyfrifol am ddiogelwch a datblygiad y plant. Byddwch yn darparu gofal i un neu fwy o blant, yn eu dysgu sut i ymddwyn yn dda, yn cynnal amgylchedd glân a diogel ac yn trefnu gweithgareddau creadigol fel crefftau neu ddarlunio.

Yn ôl yr angen, bydd eich dyletswyddau yn cynnwys:

  • paratoi prydau bwyd
  • helpu’r plant gyda’u gwaith cartref
  • cludo’r plant i’r ysgol ac oddi yno
  • trefnu cyfnodau cysgu
  • cwblhau tasgau o amgylch y tŷ.

Gwybodaeth am y gweithle

Efallai y byddwch yn byw yn y cartref, a bydd hynny’n dibynnu ar anghenion y teulu. Byddwch yn cael eich cyflogi drwy gontract personol gyda rhieni.

Dechrau arni fel Nani

Byddwch yn gyfrifol am gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), cwblhau gwiriad DBS a chael yswiriant. Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig grantiau dechrau busnes i helpu i sefydlu eich busnes gwarchod plant ac mae rhagor o arweiniad ar gael yn PACEY.

I lwyddo yn y swydd hon, bydd angen y rhinweddau canlynol arnoch chi:

  • mwynhau gweithio gyda phlant
  • natur ofalgar ac amyneddgar
  • agwedd hyblyg ac addasadwy
  • sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
  • dychymyg a chreadigrwydd.

Cymwysterau Gofynnol

Nid oes angen cymwysterau.

Rhaglen hyfforddi

Mae'r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Plant yn cyflwyno mewydd craidd sydd ei hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal plant.

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.