Neidio i'r prif gynnwys

Cydlynydd Gofal Cartref

Fel Cydlynydd Gwasanaeth Gofal Cartref, byddwch yn cydlynu gwaith tîm o Weithwyr Gofal Cartref ac Uwch Weithwyr Gofal Cartref.

An older woman in an armchair, smiling and playing a flat wooden stringed instrument. A care co-ordinator is with her, smiling

Bod yn Gydlynydd Gofal Cartref

Byddwch yn cynllunio ac yn dyrannu ymweliadau cartref i Weithiwr Gofal Cartref / Uwch Weithiwr Gofal Cartref priodol, gan wneud yn siŵr bod sgiliau a nodweddion y gweithiwr yn cyfateb yn agos i rai'r unigolyn. Byddwch hefyd yn ymateb i newidiadau byr rybudd i gynlluniau a rotas, gan wneud yn siŵr bod pawb y mae hyn yn effeithio arnynt yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Byddwch yn gwneud yn siŵr bod rotas ac amserlenni gwaith yn cael eu trefnu a'u cynllunio i roi digon o amser i staff ymweld â phobl, a theithio rhwng gwahanol gartrefi. Byddwch yn cysylltu ag aelodau teulu a gweithwyr proffesiynol eraill.

Byddwch yn gyfrifol am gadw cofnodion cywir, gan ddangos trefn a sylw trylwyr i fanylion. Gallwch hefyd symud ymlaen i rolau uwch fel Rheolwr neu Ddirprwy Reolwr Gofal Cartref.

Gwybodaeth am y gweithle

Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu gofal a chymorth hanfodol i oedolion a phlant sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain.

Stori Karima

Mae Karima wedi gweithio fel gweithiwr gofal cartref ers 15 mlynedd. Yn wreiddiol o Libya, mae gan Karima radd mewn Daeareg. Fel mam sengl, dechreuodd weithio ym maes gofal oherwydd bod y gwaith yn rhoi’r hyblygrwydd iddi ofalu am ei phlentyn, yn ogystal ag eraill.

Cymwysterau Gofynnol

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ragor o wybodaeth am y cymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch chi wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol

Cwrs wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer pobl 18+ sy'n byw yng Nghymru sy'n cwmpasu'r hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Dechrau arni fel Cydlynydd Gofal Cartref

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • y gallu i dalu sylw trylwyr i fanylion
  • sgiliau cyfathrebu da
  • empathi a thosturi
  • y gallu i feithrin perthnasoedd ymddiriedus
  • y gallu i weithio’n dda mewn tîm
  • sgiliau trefnu da
  • hyblygrwydd
  • y gallu i gadw cofnodion cywir
  • gwytnwch
  • y gallu i addasu i sefyllfaoedd heriol a newidiol
  • agwedd agored a chynhwysol
  • y gallu i roi cyfarwyddiadau i aelodau eraill o'r tîm

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.