Fel gweithiwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i blant a phobl ifanc.
Gofal preswyl i blant
Mae cartrefi preswyl i blant hefyd yn cael eu galw’n gartrefi plant. Maen nhw’n rhywle lle gall plant a phobl ifanc fyw os nad ydyn nhw’n gallu bod gartref gyda’u teuluoedd eu hunain.
Gwybodaeth am cartrefi plant
Mae cartrefi plant yn gofalu am blant a phobl ifanc o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd yn aml wedi cael profiadau bywyd heriol. Mae’r cartrefi’n groesawgar, yn lân ac yn gartrefol, gyda lolfeydd cyfforddus, ceginau ac ystafelloedd bwyta a rennir, ystafelloedd gwely a dodrefn meddal. Mae digon o le i blant ymlacio a’i wneud yn gartref iddyn nhw eu hunain
Nod y cartrefi hyn yw darparu gofal cefnogol a chariadus a lle diogel a meithringar i'w alw'n 'adref'. Mae tîm gofal preswyl craidd i blant yn gweithio gyda phobl ifanc i ddarparu bywyd cartref sefydlog, mynediad i gyfleoedd, hwyl a chefnogaeth drwy'r cyfnod anodd. Mae timau cartref plant hefyd yn aml yn gweithio gyda drwy weithio
gyda rhieni, gweithwyr cymdeithasol, athrawon a theulu estynedig i
ddarparu’r gofal gorau i’r plant a’r bobl ifanc.
Rheoleiddio cartrefi preswyl i blant
Yng Nghymru, caiff cartrefi gofal preswyl i blant eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru, sy’n cofrestru, arolygu a gweithredu i wella ansawdd gwasanaethau gofal ledled Cymru.
Edrychwch ar rai o'r rolau y gallech chi eu gwneud ym maes gofal preswyl i blant
Fel Rheolwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn pennu'r cyfeiriad gweithredol ac yn trefnu'r gwaith o redeg y cartref yn effeithiol.