Gweithiwr Ailalluogi
Fel Gweithiwr Ailalluogi, byddwch yn darparu cymorth a/neu therapi tymor byr hanfodol i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Bydd hyn yn anelu at eu helpu i ailddysgu sgiliau i'w cadw'n ddiogel a dod o hyd i'w hannibyniaeth.

Bod yn Weithiwr Ailalluogi
Mae Gweithiwr Ailalluogi hefyd yn cael ei alw’n Ofalwr Canolraddol ac mae’n cael ei ystyried yn gymorth tymor byr.
Fel Gofalwr Canolraddol, byddwch yn helpu pobl i setlo’n ôl yn eu cartrefi ac adennill eu sgiliau dyddiol ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty. Byddwch yn gweithio o fewn tîm yr awdurdod lleol ac yn helpu i roi cynllun gofal ar waith sy’n canolbwyntio ar helpu pobl i fyw bywydau mor annibynnol â phosibl. Gall hyn gynnwys agweddau ar ofal personol a mynd i’r afael â’u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol.
Fel Gweithiwr Ailalluogi, bydd angen i chi gwblhau hyfforddiant pellach, gan y byddwch yn delio ag achosion mwy cymhleth. Bydd hyn yn cynnwys cynnal asesiadau ar gyfer cymorth arbenigol ychwanegol a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol fel Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion i gytuno ar gynllun ailalluogi.
Gwybodaeth am y gweithle
Byddwch yn gweithio i’ch awdurdod neu’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol ac yn gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd proffesiynol i gytuno ar nodau.
Cymwysterau Gofynnol
Nid oes angen cymwysterau arnoch fel Gofalwr Canolraddol ond gallwch symud ymlaen i fod yn Weithiwr Ailalluogi drwy ddilyn hyfforddiant Calderdale.
Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch chi wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.
Cyflwyniad i ofal cymdeithasol
Dechrau arni fel Gweithiwr Ailalluogi
I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:
- sgiliau cyfathrebu da
- empathi a thosturi
- bod yn dda am ddatrys problemau
- hyblygrwydd
- y gallu i gymell eich hun
- y gallu i weithio’n dda mewn tîm
- y gallu i gadw cofnodion cywir
- sgiliau cadw amser da
- sgiliau trefnu da
- y gallu i feithrin perthnasoedd ymddiriedus.