Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Fel Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref, byddwch yn darparu gofal a chymorth i oedolion, plant a phobl ifanc yn eu cartrefi eu hunain.

Bod yn Weithiwr Cymorth Gofal Cartref
Byddwch yn gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn hyrwyddo dewisiadau, annibyniaeth ac urddas pobl, ac yn eu helpu i wneud y pethau sy'n bwysig iddynt.
Gwybodaeth am y gweithle
Wrth i’n poblogaeth heneiddio, mae gofal cartref yn dod yn hanfodol i bobl ledled Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu gofal a chymorth i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. Bydd y gofal a'r cymorth rydych yn eu darparu yn amrywio fesul unigolyn, a bydd hyn wedi'i nodi yn eu cynlluniau gofal. Gall hyn gynnwys cymorth gyda thasgau o amgylch y tŷ, gofal personol, ymolchi a gwisgo.
Stori Karima
Cymwysterau Gofynnol
Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ragor o wybodaeth am y cymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch chi wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.
Gallwch chi hefyd symud ymlaen i fod yn Gydlynydd Gofal Cartref neu’n Uwch Weithiwr Gofal Cartref.
Cyflwyniad i ofal cymdeithasol
Dechrau arni fel Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:
- brwdfrydedd dros weithio gyda phobl
- sgiliau cyfathrebu da
- empathi a thosturi
- y gallu i feithrin perthnasoedd ymddiriedus
- y gallu i weithio’n dda mewn tîm
- sgiliau trefnu da
- hyblygrwydd
- y gallu i gadw cofnodion cywir
- gwytnwch
- y gallu i addasu i sefyllfaoedd heriol a newidiol
- agwedd agored a chynhwysol.