Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 7 Hydref a 25 Hydref, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar rôl y Gweithiwr Cymdeithasol.

Mwy yma

Rheolwr Gofal Cartref

Fel Rheolwr Gofal Cartref, byddwch yn pennu'r cyfeiriad gweithredol ac yn trefnu'r gwaith o redeg y gwasanaeth yn effeithiol. Byddwch yn gwneud yn siŵr bod staff yn darparu'r gofal a'r cymorth gorau posib.

Bod yn Rheolwr Gofal Cartref

Byddwch yn darparu arweinyddiaeth effeithiol i staff ac yn goruchwylio. Byddwch yn cyfathrebu â'r aelodau perthnasol o staff yn eich tîm i'w helpu i ddeall eu rôl o ran darparu gofal a chymorth.

Byddwch yn llenwi gwaith papur ac yn cadw cofnodion cyfredol, gan gynnwys dogfennaeth reoleiddiol hanfodol.

Gwybodaeth am y gweithle

Wrth i’n poblogaeth heneiddio, mae gofal cartref yn dod yn hanfodol i bobl ledled Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu gofal a chymorth i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain

Cymwysterau Gofynnol

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ragor o wybodaeth am y cymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer y swydd hon. (dolen)

Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch chi wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol

Cwrs wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer pobl 18+ sy'n byw yng Nghymru sy'n cwmpasu'r hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Dechrau arni fel Rheolwr Gofal Cartref

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • brwdfrydedd dros weithio gyda phobl
  • sgiliau cyfathrebu da
  • empathi a thosturi
  • cymhelliant a phenderfyniad
  • y gallu i feithrin perthnasoedd ymddiriedus
  • y gallu i weithio’n dda mewn tîm
  • sgiliau trefnu da
  • hyblygrwydd
  • y gallu i gadw cofnodion cywir
  • gwytnwch
  • y gallu i addasu i sefyllfaoedd heriol a newidiol
  • agwedd agored a chynhwysol
  • sgiliau arwain a rheoli
  • y gallu i roi cyfarwyddiadau ac i oruchwylio aelodau eraill o'r tîm
  • dealltwriaeth lawn o'r rheoliadau a'r gofynion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r rôl
  • y gallu i dalu sylw trylwyr i fanylion, gan wneud yn siŵr bod y wybodaeth gywir yn cael ei chofnodi yn yr holl waith papur

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.