Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

14 Medi 2022

Gŵyl ddysgu gydol oes i’r blynyddoedd cynnar a gofal plant

Ymunwch â Gofal Cymdeithasol Cymru rhwng 9 a 16 Tachwedd ar gyfer gŵyl o wybodaeth a digwyddiadau i gefnogi’r sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Yr ŵyl

Thema’r ŵyl yw cefnogi a chryfhau dysgu o fewn y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal Plant

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cychwyn gyda chynhadledd rithwir y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ar 9 Tachwedd.

Yn ystod yr wythnos bydd yna cipolwg beunyddiol, gyd ‘crynodeb adnoddau’ a bydd yr ŵyl yn gorffen gyda sesiwn gyda’r hwyr ar 16 Tachwedd.

Mae’r ŵyl yn agored i unrhyw un sy’n gweithio gyda, neu sy’n ymwneud â’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, gan gynnwys tiwtoriaid, awdurdodau lleol a dysgwyr.

 

Sut i gofrestru

Defnyddiwch y ddolen Eventbrite i gofrestru ar gyfer yr ŵyl. Wrth gofrestru byd gennych y cyfle i gofrestru am ein cynhadledd, a’r sesiwn gyda’r hwyr.

Unwaith byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost ‘crynodeb adnoddau’ gyda gwybodaeth ac adnoddau i’ch cefnogi yn eich rôl. Bydd pob diwrnod yn canolbwyntio ar rywbeth gwahanol.

 

Rhaglen yr ŵyl

  • Dydd Mercher, 9 Tachwedd: Cynhadledd y blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • Dydd Iau, 10 Tachwedd: Canolbwyntio ar recriwtio a chadw
  • Dydd Gwener, 11 Tachwedd: Diwrnod caredigrwydd y byd
  • Dydd Llun 14 Tachwedd: Chwarae
  • Dydd Mawrth 15 Tachwedd: Cwricwlwm a chymwysterau
  • Dydd Mercher 16 Tachwedd: Sesiwn gyda’r hwyr

 

Cynhadledd y blynyddoedd cynnar a gofal plant

Bydd y gynhadledd yn digwydd dros Zoom rhwng 9:30am a 1:15pm ar 9 Tachwedd.

Y siaradwyr gwadd yw:

  • Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru
  • Chantelle Haughton, Gweithiwr proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliol
  • Glenda Tinney o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Bydd hefyd panel gwadd i ateb eich cwestiynau.

 

Sesiwn gyda’r hwyr

Cofrestrwch ar gyfer yr sesiwn gyda’r hwyr ar 16 Tachwedd i glywed gan warchodwr plant cofrestredig ac i ymuno â sesiwn sy’n canolbwyntio ar rieni a gofalwyr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â eycc@socialcare.wales, neu gofynnwch ar y diwrnod.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.