Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

10 Mai 2022

HAC Gofal Cymdeithasol Cymru

A oes gennych chi neu’ch tîm her gofal cymdeithasol a allai elwa o ddatrysiad arloesol?

Ymunwch ag Hac Gofal Cymdeithasol Cymru 2022 a sicrhau hyd at £20,000 o gyllid prosiect arloesi!

 

Mae Hac Gofal Cymdeithasol Cymreig cyntaf erioed newydd lansio, gan ddod â’r sector ynghyd i ddatrys heriau a wynebir gan gydweithwyr ar draws gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant drwy ddarparu cyllid i ddatblygu’r atebion arloesol gorau.

 

Bydd Hac Gofal Cymdeithasol Cymru yn ysgogi ac yn cefnogi arloesedd i greu systemau, prosesau, arferion a dulliau Gofal Cymdeithasol sy’n addas ar gyfer y dyfodol gyda chymorth technoleg. Mae’n cynnig cyfle gwych i staff Gofal Cymdeithasol, prifysgolion, a diwydiant gydweithio a rhwydweithio i ddatblygu syniadau a allai ddatrys heriau gweithredol a gynigir gan weithwyr ac ymarferwyr gofal cymdeithasol go iawn yng Nghymru.

 

Bydd yr Hac Gofal Cymdeithasol yn digwydd ar-lein, a gellir cyflwyno heriau nawr cyn iddynt gael eu cyflwyno i ddiwydiant, y byd academaidd ac arloeswyr mewn digwyddiad ar 8 Mehefin, 2022 gyda’r ‘atebion’ i’r heriau yn cael eu cyflwyno ar Fehefin 23, 2022  a’r enillwyr yn cael eu dewis ar y diwrnod.

 

Bydd y cyfranogwyr yn cael mynediad at arbenigwyr arloesi a fydd yn cynnig cyngor ar sut i fwrw ymlaen â datrysiadau arfaethedig, yn ogystal â chael y cyfle i sicrhau hyd at £20,000 o gyllid o gronfa prosiect arloesi Llywodraeth Cymru.

 

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i chyflwyno eich her: Hac Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Unwaith y bydd eich her wedi’i derbyn a’i chyhoeddi (a all gymryd hyd at bum niwrnod, felly rydym yn diolch i chi ymlaen llaw am eich amynedd), bydd cydweithwyr o ofal cymdeithasol, diwydiant, ac academia yn cael y cyfle i weld eich her ar y llwyfan a dechrau trafodaethau gyda ti. Mae’r digwyddiad hwn yn ymwneud â chydweithio, ac fe’ch anogir i wneud y mwyaf o hynny.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r her yw dydd Sul Mehefin 5.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.