Hyfforddiant i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant
24 January 2022
Ydych chi’n ystyried gweithio gyda phlant, ond yn teimlo bod angen i chi ennill sgiliau a dealltwriaeth o’r rolau sydd ar gael?
Mae nifer o leoliadau a cyfleoedd gwahanol ble gallwch weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Edrychwch ar rai cyfleoedd hyfforddi isod.
PACEY
PACEY yw’r elusen Cymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar sy’n hyfforddi a chefnogi’r rhai sy’n dymuno gweithio, neu sy’n gweithio fel cynorthwyydd gwarchodwr plant yng Nghymru ar hyn o bryd. Maent hefyd yn cefnogi naniau.
Dyma rai rhaglenni hyfforddi:
Hyfforddiant gofal plant yn y cartref yng Nhymru

Chwarae Cymru
Mae Chwarae Cymru yn elusen annibynnol sy’n diwallu anghenion chwarae pob plentyn yng Nghymru . Maent yn darparu cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn, neu sy’n gyfrifol am ddarparu ar gyfer chwarae plant fel y bydd Cymru un diwrnod yn fan lle rydym yn cydnabod ac yn darparu’n dda ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn.
Mae’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP) yn gyflwyniad i’r rheini sy’n newydd i waith chwarae neu’r rheini sy’n gweithio mewn cynlluniau chwarae tymor byr, dros y gwyliau (trosglwyddir dros dridiau).
Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP)
