Neidio i'r prif gynnwys

Karolina, Rheolwr Gofal Preswyl i Blant

Dyheadau cynnar a throeon annisgwyl

Dechreuodd fy nhaith broffesiynol yng Ngwlad Pwyl gyda dyhead i fod yn Swyddog Heddlu. Yn anffodus, methais yr archwiliad meddygol oherwydd safon golwg fy llygaid, a olygodd na allwn ddilyn y llwybr hwnnw.

Roeddwn yn siomedig, ond ni ildiais. Yn lle hynny, dewisais i astudio Gweinyddu Busnes, a oedd o gymorth i mi i ddatblygu gwytnwch ac i ddysgu sut i addasu - rhinweddau a fyddai'n ddiweddarach yn hanfodol yn fy ngyrfa.

Ymweliad â Chymru sy'n newid bywyd

Wrth i mi orffen yn y brifysgol, penderfynais deithio ac ymweld â fy chwaer a oedd yn byw yng Nghymru. Newidiodd yr ymweliad hwnnw bopeth. Cefais fy syfrdanu gan y tirwedd, gan gynhesrwydd y bobl, a chyfoeth diwylliant Cymru. Teimlais gysylltiad cryf â'r wlad a phenderfynais aros. Cefais swydd mewn cartref gofal lleol yn Llanymddyfri, ac mewn gwirionedd, dyna lle dechreuodd fy nhaith i ofal cymdeithasol.

Ar ôl dechrau gweithio mewn gofal, roeddwn yn deall pwysigrwydd diwylliant Cymreig, yn enwedig o ran sut rydym yn cefnogi pobl. Roeddwn i eisiau dangos parch ac am integreiddio'n llawn, felly dechreuais ddysgu'r Gymraeg. Roedd yn ymrwymiad personol i anrhydeddu'r gwerthoedd a'r traddodiadau sy’n hanfodol i fywyd Cymreig.

Angerdd yn tyfu a datblygiad proffesiynol

Syrthiais mewn cariad â'r proffesiwn gofal yn gyflym. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gweithio mewn gwahanol feysydd gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl a chefnogaeth i unigolion ag anableddau dysgu. Mae'r profiadau hyn wedi fy helpu i sylweddoli mai dyma le rwy’n ffynnu - yn broffesiynol ac yn bersonol.

Heddiw, rwy'n gweithio fel Rheolwr Gofal Preswyl i Blant mewn cartref plant preswyl sydd â dwy ystafell wely, ac yn cefnogi pobl ifanc rhwng 8 a 18 oed sy'n destun gorchmynion gofal. Mae'r rôl hon wedi fy herio i ddysgu a rhoi deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau diogelu arbenigol sy'n wahanol iawn i'r rhai mewn gofal oedolion ar waith. Rwyf wedi datblygu dealltwriaeth ddofn o hawliau plant a phobl ifanc, ac rwy'n angerddol am ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolion i gefnogi eu haddysg, eu hiechyd, eu lles emosiynol, a’u cynlluniau i'r dyfodol.

Fy nghyngor i Weithwyr Proffesiynol Gofal Cymdeithasol

Os ydych chi'n meddwl am weithio ym maes gofal cymdeithasol neu eisiau datblygu eich practis, dyma fy nghyngor i:

  • Deallwch y Fframwaith: Cymerwch amser i ddysgu'r ddeddfwriaeth, y polisi a'r protocolau diogelu perthnasol.
  • Arhoswch yn wybodus: Cadwch eich ymarfer yn gyfredol trwy hyfforddiant, myfyrio a dysgu parhaus.
  • Cefnogwch eich tîm: Adeiladwch ddiwylliant tîm cryf trwy gynnal sesiynnau ddadfriffio, drwy gynnig cefnogaeth emosiynol, a drwy annog cyfathrebu agored.

Sgiliau a rhinweddau sy'n bwysig

Yn fy mhrofiad i, mae'r rhinweddau canlynol yn hanfodol i unrhyw un sy'n gweithio yn y maes gofal:

  • Gosteg ac amynedd: Mae'r rhain yn hanfodol wrth ddelio â sefyllfaoedd emosiynol neu gymhleth.
  • Gwytnwch a meddu ar wybodaeth ymarferol sy’n ystyriol o drawma: Deall effaith trawma ac ymateb gydag empathi a chryfder.
  • Cyfathrebu effeithiol: Drwy fod yn wrandäwr da a drwy gyfathrebu'n glir â'r cydweithwyr a'r bobl rydych chi'n eu cefnogi.
  • Ffiniau proffesiynol: Cynnal perthnasoedd parchus a phriodol, yn enwedig wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Cyfeiriadau at CBAC

Uned un: Twf, Datblygiad a Llesiant Dynol – deall sut mae diwylliant a hunaniaeth yn dylanwadu ar ofal.

Uned dau: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Plant – canolbwyntio ar ddiogelu, deddfwriaeth a hawliau plant.

Uned dau: Egwyddorion gofal a gofal plant, gan gynnwys hyrwyddo annibyniaeth a dewis.

Uned dau: Gwerthoedd gofal, cyfathrebu, a ffiniau proffesiynol.

Cwestiynau cymorth dysgu

  1. Sut mae taith Karolina yn dangos pwysigrwydd ymwybyddiaeth ddiwylliannol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol?
  2. Pa ddeddfwriaeth a chyfrifoldebau diogelu y byddai angen i Karolina eu deall wrth weithio mewn cartref gofal preswyl i blant?
  3. Pam mae dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn bwysig wrth gynllunio ar gyfer dyfodol plant a phobl ifanc mewn gofal?
  4. Pa sgiliau a rhinweddau personol y mae Karolina yn eu dangos sy'n hanfodol ar gyfer gweithio mewn gofal cymdeithasol? Sut mae'r rhain yn ymwneud ag ymarfer proffesiynol?

Dysgwch fwy am rai o'r rolau mewn gofal preswyl

Fel Rheolwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn pennu'r cyfeiriad gweithredol ac yn trefnu'r gwaith o redeg y cartref yn effeithiol.