Neidio i'r prif gynnwys
Gofal plant

30 Ebrill 2022

“Mae Avril wedi newid fy mywyd”

Yn ddiweddar cawsom gyfarfod ag Avril Bowen, o Sir Gâr a ddywedodd wrthym am ei rolau ym maes gofal plant yn y cartref.

Sut ddaethoch chi’n nani?

Roeddwn i’n warchodwr plant am ugain mlynedd tan i’m gŵr a minnau benderfynu lled-ymddeol. Roedden ni am symud i gefn gwlad, ond roeddwn i wedi dod yn agos at un rhiant a oedd eisiau fy nghymorth o hyd gan ei bod yn cael ei phedwerydd plentyn. Dyma sut y des i’n Nani i Kate a’i theulu ac roedd hyn yn cyd-fynd yn berffaith â’m bywyd.

Dywedwch fwy am y teulu rydych chi’n ei gynorthwyo

Mae Kate yn Weithiwr Cymdeithasol sydd ar absenoldeb mamolaeth ar hyn o bryd. Rwy’n ymweld â’r teulu’n rheolaidd i ddod i ‘nabod ei mab newydd Finn, fel ein bod yn gyfforddus gyda’n gilydd pan fydd Kate yn mynd yn ôl i’ gwaith.

Rwy’n ‘nabod y teulu’n dda. Pan oeddwn i’n warchodwr plant, roeddwn i’n gofalu am dri phlentyn Kate, Jackson sydd bron yn 18 oed, Cruz sy’n 11 a Frankie sy’n 10. Maen nhw wedi dod yn rhan o’m teulu estynedig. Gofynnodd Kate am fy nghymorth pan oedd yn astudio ar gyfer ei gradd gwaith cymdeithasol ac angen cymorth gofal plant ychwanegol i gwblhau ei gradd. Gofalais am blant Kate am oddeutu deng mlynedd i gyd, sy’n dangos pa mor bwysig y gall gwarchodwyr plant a nanis fod i rieni.

Three Children in front of a fountain
Dydw i ddim wedi cael unrhyw deulu o’m chwmpas i’m cynorthwyo erioed mewn gwirionedd. Mae Avril wedi bod yn fendith, mae’n angel ac fel mam-gu i’r plant.
Kate
Dyw fy ngwaith ddim yn 9-5pm bob dydd. Mae Avril wedi bod yn hyblyg bob amser ac wedi bod yn rhan hanfodol o’m bywyd. Mae fy mab hynaf yn hynod o egnïol ac mae ganddi amynedd a chadernid sant. Mae pob un o’m plant yn gwirioni mynd ati. Ar fy niwrnodau bant, byddent yn siomedig na fyddent yn ei gweld gan ei bod yn eu cadw mor brysur, yn chwarae a mynd â nhw i lefydd amrywiol. Mae hi fel un o’r teulu iddyn nhw, yn un o fil.

Dywedwch fwy am eich amser fel gwarchodwr plant

Yn ystod fy amser fel gwarchodwr plant, gofalais am oddeutu 40 o blant a rhai am dros ddeng mlynedd. Roedd hi’n anodd cydbwyso bywyd a gwaith gyda thri phlentyn ifanc fy hun a doedd hi ddim tan i rywun arall dweud wrthyf y byddwn i’n warchodwr plant gwych y dechreuais ei ystyried fel gyrfa.

Dechreuais weithio fel gwarchodwr plant pan oedd fy nhair merch yn saith, pedair a dwy oed. Roeddwn i’n brysur iawn ac yn cael llawer o waith diolch i argymhelliad gan hwn a’r llall neu’r ysgolion lleol wrth ollwng a chasglu’r plant. Dyma lle byddwn i’n cyfarfod â mamau eraill a bydden nhw’n gweld sut roeddwn i’n rhyngweithio gyda’r plant.

Beth sy’n gwneud nani dda?

Os oes gennych chi amynedd, hyblygrwydd, ac yn caru plant, byddwch chi wrth eich bodd gyda’r swydd hon. Efallai y bydd angen i chi ddarparu ar gyfer pob oed, felly mae’n bwysig gallu addasu. Roeddwn i wastad yn dysgu ac yn mynychu cyrsiau i’m helpu i ddeall gwahanol arwyddion o ddatblygiad ymddygiadol.

Mae gen i gymaint o atgofion hapus. Fy namcaniaeth yw nad oes diwrnod gwael yn y gwaith pan fyddwch chi’n cael eich amgylchynu gan blant gan fod eu hapusrwydd yn destun llawenydd bob amser. Maen nhw’n gwneud i chi wenu o hyd a llonni’ch diwrnod.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.