Neidio i'r prif gynnwys
Gofal plant

08 Rhagfyr 2022

Menter Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi ennill gwobr genedlaethol fawreddog

Four people stood in front of a glass building

Mae un o fentrau’r Cyngor Sir sy’n sicrhau bod plant mewn gofal Ynys Môn yn mwynhau profiadau bywyd cadarnhaol wedi ennill gwobr genedlaethol fawreddog.

Mae’r fenter Cartrefi Clyd wedi ennill Gwobr Plant Mewn Gofal, Gwobrau ‘Children and Young People Now 2022’ a hynny am ei lwyddiant wrth ofalu am blant o fewn cartrefi lle bydd y plant yn cael gofal a magwraeth.

Mae’r Wobr Plant Mewn Gofal yn cydnabod awdurdod lleol neu ddarparwr gofal sydd wedi gwneud fwyaf i wella canlyniadau ar gyfer plant neu bobl ifanc sy’n derbyn gofal boed hynny mewn gofal preswyl, gofal maeth neu leoliadau eraill.

Lansiwyd y fenter yn 2020 ac mae pob un o eiddo Cartrefi Clyd y Cyngor Sir yn darparu cartref ar gyfer hyd at dri o blant. Maent i gyd wedi eu staffio gan dimau bach o weithwyr gofal gan sicrhau parhad gofal i’r plant sy’n byw yno.

Hoffwn longyfarch yr holl staff, gwasanaethau a sefydliadau partner sydd ynghlwm â’r fenter hon. Heb eu hymrwymiad a’u gwaith tîm, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.

Mae’r fenter yn pwysleisio’r pwysigrwydd o roi amser a sylw unigol i blant sy’n eu cynorthwyo i feithrin perthnasau gwerthfawr a sicrhau eu bod yn derbyn profiadau bywyd cadarnhaol sy’n eu cefnogi i ddatblygu yn oedolion emosiynol iach.
y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn

Mae’r fenter yn galluogi plant i gynnal perthnasau iach â’r rhai hynny sy’n bwysig iddynt ac i gefnogi eu teimlad o hunaniaeth.

Mae’r ddarpariaeth ar gael mewn tai arferol o fewn cymunedau lleol lle bydd teuluoedd eraill yn byw ac fel teuluoedd eraill, maent yn gartrefi lle mae plant yn cyd-fyw gyda gofal 24 awr a chefnogaeth gan ein gofalwyr rhagorol.

Darperir y gwasanaeth hwn mewn cartrefi arferol o fewn cymunedau lleol lle mae teuluoedd eraill yn byw; ac fel teuluoedd eraill, mae’n gartref lle gall plant fyw gyda’i gilydd a chael gofal a chefnogaeth 24 awr gan ein gofalwyr rhagorol.

Hoffwn ddiolch i Wasanaethau Tai ac Addysg Cyngor Môn a Llywodraeth Cymru am wneud hyn yn bosibl. Diolch hefyd i’n haelodau etholedig am eu cefnogaeth barhaus ac i drigolion Môn am groesawu’r plant i’w cymunedau.
Fôn Roberts, Eglurodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Môn
Mae ennill y wobr fawreddog hon yn destun clod i’r holl staff, gwasanaethau a phartneriaid sydd wedi ymwneud â’r fenter hon.

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ymchwilio i brosiectau arloesol sy’n cefnogi plant a theuluoedd ar draws yr Ynys.
y Cynghorydd Gary Pritchard, Yr Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.