Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022
Buddsoddi yn natblygiad staff yn hwb mawr i fusnes newydd.
Mae busnes newydd gofal plant a lansiwyd yng Nghaerfyrddin yn anterth y pandemig Covid-19 yn mynd o nerth i nerth.
Wrth i’r byd ymgodymu â chyfnodau clo a chyfyngiadau symud, lansiodd Rebecca Davies fusnes Willow Daycare ar dir Ysbyty Cyffredinol Glangwili, gan gydnabod bod prinder difrifol o gymorth gofal plant, yn enwedig i staff y GIG.
O’r dechrau, rhoddwyd pwyslais cryf ar hyfforddi staff trwy brentisiaethau, ac mae’r busnes wedi gweld cynnydd syfrdanol o 1,600% yn nifer y plant sy’n mynychu, o saith ar y dechrau i 130 flwyddyn yn ddiweddarach a staff o 20.
Yn awr, mae’r feithrinfa wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.
Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.
Mae tîm Rebecca wedi tyfu i 20 aelod o staff, pawb ohonynt yn cael eu hannog i gofleidio addysg a, lle bo modd, i gynnwys y Gymraeg yn eu gwaith.
Mae hi’n credu y bydd grymuso ac addysgu ei gweithwyr yn fuddiol i sector sy’n dioddef o brinder staff ledled Cymru.
“Mae addysg yn rhoi cyfle i fy mhobl i hedfan yn uchel yn eu gyrfaoedd,” meddai. “Os gallaf i gadw fy nhîm o 20 yn y sector, fe ân nhw ymlaen i gyfoethogi bywydau plant yn y gymuned ehangach am flynyddoedd lawer a chodi safon gofal plant yng Nghaerfyrddin a Chymru.”
Mae Willow Daycare yn cynnig Prentisiaethau o Lefelau 2 i 5 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn ogystal â Gwaith Chwarae Lefel 3. Fe’u cyflwynir ar y cyd â TSW Training a ddywedodd fod y cwmni wedi ennill ei blwyf yn ei flwyddyn gyntaf a’u bod yn ymddiried ynddo ac yn ei ddathlu
Wrth longyfarch Willow Daycare a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: Prentisiaethau – WeCare (gofalwn.cymru) neu https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth