Diwrnod Chwarae 2025: Dathlu Mannau Chwarae 2025 ledled Cymru

Mae Diwrnod Chwarae, y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae, yn cael ei gynnal eleni ddydd Mercher, 6 Awst 2025, gyda’r thema #MannauChwarae2025.
Mae thema eleni’n tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol lleoedd hygyrch a chynhwysol lle gall plant a phobl ifanc chwarae’n rhydd, cysylltu â ffrindiau, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o’u cymuned. Mae plant yn chwarae ym mhobman - dyna pam mae mynediad at leoedd chwarae o ansawdd yn hanfodol ar gyfer eu hapusrwydd, eu datblygiad, a’u lles cyffredinol.
Digwyddiadau Diwrnod Chwarae ledled Cymru
Dyma rai o’r digwyddiadau gwych sy’n cael eu cynnal ledled Cymru ym mis Awst:
Gallai tâl fod yn berthnasol.
Dyddiad |
Lleoliad |
Amser |
Dydd Sadwrn 2-6 |
1pm – 4pm |
|
Dydd Llun 4 |
Gwasaneth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin Ammanford Park |
1pm – 4pm |
Dydd Mercher 6 |
Gwasnaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin, Parc Gaerfyrddin |
1pm – 4pm |
Dydd Mercher 6 |
10:30am – 3pm |
|
Dydd Mercher 6 |
11:30pm - 3:30pm |
|
Dydd Mercher 6 |
Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd, Maes Hamdden Dwyreiniol, Llanrummney, CF3 4DN |
1pm – 4pm |
Dydd Mercher 6 |
Ieuenctid Chwarae a Chymuned Casnewydd, Rhodney Parade, NP19 0UU |
11am - 3pm |
Dydd Mercher 6 |
Early Blynyddoedd Cynnar Cymru “Heulog y Gwynt” Parc Bute, Caerdydd a Pharc Siriol Margan |
10:30am-12:30pm |
Dydd Gwener 8 |
Gwasnaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin, Parc Howard, Llanelli |
1pm – 4pm |
Golwg yn ôl ar y llynedd
Y llynedd, cafodd Gofalwn Cymru y fraint o ymweld â Phrosiect Datblygu Cymunedol Llanharan i ddysgu mwy am bŵer chwarae a phwysigrwydd sesiynau chwarae mynediad agored.
Gwyliwch ein fideo i weld y llawenydd a’r creadigrwydd y mae chwarae’n eu dod i gymunedau.
Canolfan Gymuned Brynna
Beth yw Gwaith Chwarae?
Mae lleoliadau gwaith chwarae’n darparu amgylcheddau diogel, cynhwysol a diddorol i blant chwarae, dysgu a ffynnu — yn enwedig y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod gwyliau.
Yn awyddus i weithio ym maes gwaith chwarae? Ewch i’n tudalennau Gwaith Chwarae yma i ddysgu mwy am yrfaoedd yn y sector gwerth chweil hwn.