Arolwg Gweithlu'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ansawdd bywyd gwaith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac ymdopi yn ystod Pandemig Covid-19.
Nod yr astudiaeth yw ymchwilio i bryderon iechyd a llesiant yn ymwneud ag ansawdd bywyd proffesiynol nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol a’r ffordd maen nhw’n ymdopi yn ystod Pandemig Covid-19.
Dyma’r pumed mewn cyfres o arolydion sydd â’r nod o ymchwilio i iechyd a llesiant nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yn y DU yn ystod y Pandemig.
Mae’r arolwg yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau ac mae’n gwbl gyfrinachol. Mae’r arolwg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yma.
Mae ar agor tan 8 Gorffennaf 2022 am 12pm.
Mae’r adroddiadau o’r pedwar astudiaeth cyntaf, gan gynnwys y Crynodebau Gweithredol gyda Chanllawiau Arfer Da ar gael ar wefan canlynol www.hscworkforcestudy.co.uk