Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

28 Hydref 2024

Cynhadledd Flynyddol BASW Cymru 2024

Logo Cymraeg BASW

Cynhadledd Flynyddol BASW Cymru 2024: Setliad Newydd ar gyfer Gwaith Cymdeithasol?

@ The Future Inn, Caerdydd ar ddydd Iau 28 Tachwedd 2024.

Gyda llywodraeth newydd y DU yn ymgartrefu yn Stryd Downing a Phrif Weinidog newydd i Gymru, mae BASW Cymru yn gofyn: Ai dyma'r amser am setliad newydd ar gyfer gwaith cymdeithasol?

Nod y gynhadledd undydd hon yw dod â phobl ynghyd i ystyried beth yw’r cam nesaf ar gyfer gwaith cymdeithasol? Bydd hwn yn ddiwrnod hamddenol, lle byddwn yn gwahodd cynrychiolwyr i wrando a chyfrannu; i gael eich herio a chwrdd â phobl a rhandeiliaid allweddol ledled Cymru.

Mae hyn yn ymwneud â newid gwirioneddol, gyda chamau gweithredu pendant i lunio gwaith cymdeithasol ar gyfer y dyfodol. Mae BASW Cymru yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r newid hwn. Rannwch eich profiadau, eich gweledigaeth a'ch syniadau ar gyfer y dyfodol, a gyda'n gilydd byddwn yn datblygu maniffesto ar gyfer newid sy'n hyrwyddo gwaith cymdeithasol fel y proffesiwn sydd wrth galon cymunedau


I gael rhagor o wybodaeth a sut i archebu eich lle ewch i wefan BASW.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.