Arolwg newydd – Rhannwch eich profiadau o weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant
Os ydych chi'n gweithio ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant, hoffen ni wybod mwy am pam y gwnaethoch chi benderfynu mai dyma'r yrfa i chi, sut rydych chi'n teimlo am eich swydd a'ch amodau gwaith ac a ydych chi'n wynebu unrhyw heriau.
Bydd eich adborth yn gwbl ddienw – ni fydd neb yn gwybod pwy gymerodd ran.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal yr arolwg hwn i ddeall yn well y bobl sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, a’r materion sy’n bwysig i chi.
Mae eich llais yn bwysig. Bydd yr hyn rydych yn ei ddweud yn helpu i lunio’r cymorth a gynigir ac yn darparu darlun cliriach o sut beth yw gweithio yn y sector mewn gwirionedd.
Sut i gymryd rhan
Mae’r arolwg ar-lein ac yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau. Ni fyddwn yn gofyn am eich enw – mae popeth rydych yn ei rannu yn ddienw. Mae’r arolwg yn cau ddydd Gwener 21 Tachwedd.
Arolwg newydd! Rhannwch eich profiadau o… | Gofal Cymdeithasol Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom: eyccsurvey@socialcare.wales