Lansiad cyffrous bathodyn cymunedol Gofalwn Cymru gyda Girlguiding Cymru
![Girlguiding community badge](/assets/news/_hero/Toolkit-images-2.png)
Lansiad cyffrous bathodyn cymunedol Gofalwn Cymru gyda Girlguiding Cymru
Mae Gofalwn Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad y bathodyn cymunedol mewn cydweithrediad â Girl Guiding Cymru. Cynhaliwyd y lansiad yr wythnos diwethaf ar 5 Chwefror 2025 ac roedd yn dathlu ymroddiad a gwaith caled yr aelodau ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen beilot.
Mae bathodyn gofal cymunedol Gofalwn Cymru wedi’i gynllunio i gwmpasu'r 6C o gofal:
- Gofal (Care)
- Tosturi (Compassion)
- Cymhwysedd (Comptence)
- Cyfathrebu (Communication)
- Dewrder (Courage)
- Ymrwymiad (Commitment)
ynghyd â Gwydnwch a Diogelu. Mae'r bathodyn hwn yn cynrychioli agwedd hwyliog ac ysbrydoledig at ofal, gan feithrin sgiliau a gwerthoedd hanfodol yn yr aelodau ifanc.
Mae diolch arbennig i Julie Thomas a Jen Denham, yn ogystal ag aelodau uned Llandŵ Morgannwg Ganol ac Abercynon, am eu cyfraniadau amhrisiadwy. Cyflwynwyd bathodynnau cymunedol Gofalwn Cymru i’r unigolion ysbrydoledig hyn ar noson 5 Chwefror 2025, gan nodi carreg filltir yn eu taith.
Mae gan Girlguiding Cymru, y brif elusen ar gyfer merched a menywod ifanc yng Nghymru, bron i 12,000 o aelodau ifanc a dros 3,000 o wirfoddolwyr. Maent yn darparu gofod diogel a meithringar lle gall merched fod yn nhw eu hunain, bod yn greadigol, archwilio a chael hwyl. I ddysgu mwy am eu gwaith anhygoel, ewch i: Girlguiding Cymru
Ymunwch â ni i ddathlu’r cyflawniad gwych hwn a dyfodol disglair gofal cymunedol yng Nghymru!