Blogiau Llysgennad Gofalwn Cymru: Jamie Haddock
Mae Jamie yn Llysgennad Gofalwn Cymru. Darllenwch ei blog i ddarganfod mwy am ei rôl a sut y daeth i mewn i'r sector gofal.
Rôl
Rwy'n Gynorthwyydd Cymorth Cymunedol yn y Tîm Cymorth Cymunedol yn Sir y Fflint.
Beth rydw i'n ei garu am yr hyn rydw i'n ei wneud
Un o'r pethau rydw i'n ei garu am fy swydd yw'r boddhad o helpu unigolion sydd ei angen fwyaf. Mae rhai pobl yn dod allan o'r ysbyty ac mae angen ychydig o anogaeth arnynt i fynd yn ôl i'w trefn arferol. Mae angen cefnogaeth lawn ar eraill, ac rydym yn fwy na pharod i’w darparu.
Sut cyrhaeddais i ble ydw i
Des i i'r swydd hon ar ôl cael fy niswyddo yn ystod y cyfnod clo. Roedd gan fy ngwraig ganser, ac roeddwn i'n gofalu amdani. Yna gwelais swydd yn cael ei hysbysebu gan y cyngor ar gyfryngau cymdeithasol. Nid oedd angen profiad, a darparwyd hyfforddiant llawn. Ymgeisiais allan o chwilfrydedd a dywedwyd wrthyf fod gennyf yr agwedd a'r gwerthoedd cywir i ddod yn ofalwr. Ers hynny, rydw i wedi mwynhau gweithio gyda'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Y foment y byddaf bob amser yn ei gofio
Mae yna un unigolyn rydyn ni'n ei gefnogi y dywedwyd wrtho na fyddai byth yn gallu cerdded, cyfathrebu, na gwneud unrhyw beth drosto'i hun eto. Fe ddechreuon ni gydag ailalluogi, a gyda’r cymorth a gofal cywir, mae bellach yn codi o’r gwely, yn cyfathrebu â ni, ac yn byw bywyd cyfforddus a normal. Mae'r canlyniadau hyn yn fy ngwneud yn falch iawn o fod yn y proffesiwn gofal.
Tyfiant personol
Roeddwn i'n arfer cael pryder cymdeithasol eithaf gwael. Mae gweithio gydag unigolion bregus wedi fy helpu'n fawr. Mae gen i swydd nawr lle rwy'n teimlo'n ddefnyddiol mewn cymdeithas, ac mae hyn wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ynof fy hun.