Busnes Cymru Sesiynau Arbenigol Gofal Plant
Yn cyflwyno Sesiynau Arbenigol Gofal Plant Busnes Cymru; dwy sesiwn a fydd yn archwilio sialensiau cyflogi pobl a datblygu busnes yn y sector gofal plant.
Gofal Plant fel Busnes ac fel Galwedigaeth
Ar gael i’w wylio o ddydd Sadwrn 26 Mawrth
Mae darparu gofal ac addysg ar gyfer plant bach yn rhoi boddhad mawr, ond mae rheoli busnes gofal plant yn gallu bod yn ymestynnol iawn hefyd. Mae hi’n bwysig eich bod chi’n cymryd y camau angenrheidiol i ddatblygu busnes cadarn a chynaliadwy. Yn y Sesiwn Arbenigol hon, bydd ein panel yn archwilio gofal plant fel llwybr gyrfaol, y gwahanol fathau o leoliadau gofal plant, ac yn awgrymu camau i helpu’ch busnes
gofal plant i lewyrchu.
Siaradwyr:
• Jane Roche, Ymgynghorydd Gofal Plant
• Graeme Dow o Elemental Adventures Team
• Lisa Atherton a Becci Roberts o Gyngor Sir Wrecsam
Recriwtio a Chadw Staff yn y Sector Gofal Plant
Ar gael i’w wylio o ddydd Sadwrn 26 Mawrth
Yn y Sesiwn Arbenigol Gofal Plant yma, bydd ein siaradwyr yn archwilio strategaethau ar gyfer recriwtio a chadw staff, gyda ffocws arbennig ar ddenu pobl rhwng 25 a 40 oed. Byddan nhw’n trafod y sialensiau o ran amrywiaeth yn y sector, gan gynnwys y diffyg dynion, ac yn rhoi sylw i bwysigrwydd contractau a llawlyfrau staff hefyd.
Siaradwyr:
• Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cadeirydd Cwlwm
• Tony Gibbons, Meithrinfa Ddydd Kiddies Corner
• Andrew Bell, Gofalwn Cymru
Ewch i Busnes Cymru I gofrestru am le ac i wylio’r sesiwn arbenigol
Mwy o erthyglau newyddion
Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.