Bws recriwtio Gofal Cymdeithasol ar ben ffordd

Bydd bws recriwtio newydd sy’n ceisio helpu pobl i gymryd y camau cyntaf i’r sector gofal cymdeithasol, yn teithio trwy Went eleni.
Gan gyd-fynd â Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, bydd y bws yn cychwyn ei daith ddydd Mawrth 21 Mawrth, gan aros y tu allan i archfarchnad Morrisons yng Nghwmbrân rhwng 10am a 2pm.
Bydd amrywiaeth eang o rolau gwerth chweil ar gael a bydd pobl yn cael y cyfle i gwrdd a siarad â phobl sydd eisoes yn gweithio yn sector gofal cymdeithasol Gwent.
Disgwylir y bydd angen cannoedd mwy o bobl yng Ngwent i weithio mewn swyddi gofal cymdeithasol erbyn 2030 os yw’r rhanbarth am ddiwallu’r galw cynyddol am wasanaethau gofal a rhoi cefnogaeth i gymunedau ledled y rhanbarth.
Bydd amrywiaeth eang o swyddi gwerth chweil yn cael eu cynnig ar y diwrnod a bydd pobl yn cael cyfle i gwrdd ag a siarad â phobl sydd eisoes yn gweithio yn sector gofal cymdeithasol Gwent.
I’r rheiny sydd am ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod estynedig i ffwrdd, neu rai sy’n newydd i fyd gwaith, bydd cynghorwyr cyflogadwyedd ar gael i helpu i ddatblygu hyder a dysgu sgiliau newydd.
Mae’r bws sydd newydd ei frandio wedi’i ariannu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent ac mae’n ddull cydweithredol o recriwtio rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, pum awdurdod lleol Gwent a Gofalwn Cymru.
Mae bws Gofalwn Cymru yn fenter gyffrous i Went. Rydym ni mor falch o allu dod ag amrywiaeth eang o gyflogwyr gofal cymdeithasol ynghyd a dangos i drigolion y rolau amrywiol a gwerth chweil sydd gan y sector i’w cynnig.
Does dim ffordd well o ddysgu am yrfaoedd mewn gofal cymdeithasol na thrwy alw heibio a chael sgwrs â’r rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y sector.
Y gobaith yw y bydd yn helpu i godi proffil a dangos ehangder y llwybrau gyrfa gofal cymdeithasol sydd ar gael yn lleol.
Bydd y bws ar y ffordd tan Fedi 2023, gan ymweld â mannau ledled Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Dyma restr lawn o ddyddiadau ac amserau pan fydd y bws o gwmpas isod:
MAWRTH
Dydd Mawrth 21st 10am – 2pm Morrison’s, Cwmbran
Dydd Mercher 29th 10am – 2pm Parth Dysgu Blaenau Gwent, Glynebwy
EBRILL
Dydd Mercher 5th 10am – 2pm Tesco, Abertillery
Dydd Iau 13th 10am – 2pm Morrison’s, Glyn Ebwy
Dydd Iau 20th 10am – 2pm Stadiwm Cwmbran, Henllys Way
Dydd Gwener 28th 10am – 2pm Morrison’s Rogerstone
MAI
Dydd Sadwrn 6th 10am – 2pm Canolfan Hamdden Caerffili
Dydd Gwener 12th 10am – 2pm Tŷ Tredegar, Casnewydd
Dydd Gwener 19th 10am – 2pm Taith Friars, Casnewydd
Dydd Iau 25th 10am – 2pm Canolfan Hamdden Pont-y-pŵl
MEHEFIN
Dydd Gwener 2nd 10am – 2pm Maes Parcio The Dell, Cas-gwnet
Dydd Gwener 9th 10am – 2pm Maes parcio Fairfield , Y Fenni
Dydd Gwener 16th 10am – 2pm Maes parcio Chippingham, Mynwy (dros y ffordd i Waitrose)