Cynigion ac enwebiadau ar agor nawr ar gyfer Gwobrau 2023
Mae’r cyfnod cynigion ac enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2023 nawr ar agor ac rydyn ni am glywed am y gwaith da sy’n cael ei wneud o fewn gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Os ydych chi’n dîm, grŵp neu sefydliad yn y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu gydweithredol yng Nghymru, dyma eich cyfle i roi cynnig arni, fel eich bod yn gallu rhannu’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni a chael y cyfle i ennill gwobr fawreddog.
Mae gennym hefyd wobrau ar gyfer gweithwyr unigol. Mae’r rhain ar gael i unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy’r gofal a’r cymorth y maent yn ei ddarparu.
Rydyn ni’n gofyn i gydweithwyr, cyflogwyr, pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth neu eu gofalwyr, teulu a ffrindiau i enwebu unrhyw weithwyr yr hoffent weld yn cael eu cydnabod yn y categorïau ar gyfer unigolion.
Mae pum categori ar gyfer y gwobrau – tri ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau, a dau gategori ar gyfer gweithwyr unigol.
Y categorïau ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:
-
Adeiladu dyfodol disglair ar gyfer plant a theuluoedd
-
Gofalu am a gwella lles yn y gweithle
-
Cefnogi gofalwyr di-dâl.
Y categorïau ar gyfer gweithwyr unigol yw:
-
Gwobr arweinyddiaeth effeithiol, ar gyfer arweinwyr rhagorol ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant
-
Gwobr Gofalwn Cymru, i ddathlu gweithwyr gofal sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.
Y dyddiad cau ar gyfer cynigion ac enwebiadau yw 5pm, prynhawn dydd Mercher 2 Tachwedd 2022.
Mwy o wybodaeth am Wobrau 2023 a lawrlwytho ffurflen gais neu enwebu.