Cynllun AwDUra Mudiad Meithrin

Ddiwedd Ebrill llynedd fe lansiodd y Mudiad gynllun ‘AwDUra’ er mwyn annog lleisiau Cymraeg o blith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ‘sgwennu straeon i blant bach cymuned Mudiad Meithrin a thu hwnt.
Mae dau enw mawr o fyd ‘sgwennu a chyhoeddi Cymru – Jessica Dunrod a Manon Steffan Ros wedi bod yn cydweithio â’r Mudiad ar y cynllun ac wedi bod yn mentora’r 10 ymgeisydd llwyddiannus a fu’n rhan o’r cynllun.
Mae'n anrhydedd go iawn i mi gael bod yn rhan o brosiect AwDura. Mae Cymru yn gartref i drawsdoriad eang iawn o bobol, ond tydy hyn ddim yn cael ei adlewyrchu yn ein diwylliant o gwbl, ac mae'n bryd unioni'r cam yma a chymryd camau positif ac adeiladol i sicrhau cynrychiolaeth teg yn ein llenyddiaeth.
Mae’n bleser mawr gennyf gydweithio gyda Mudiad Meithrin ar brosiect sy’n mynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg a’r diffyg cefnogaeth a chyfleoedd i lenorion Cymraeg.
Yn ystod y cynllun bu i’r 10 ymgeisydd dderbyn cefnogaeth i greu straeon i blant bach ac mae’r Mudiad wedi ymrwymo i gyhoeddi gwaith dau o blith yr awduron newydd gan gefnogi pob un i barhau i greu llenyddiaeth i blant wedi i gyfnod y cynllun ddod i ben. Fe anfonodd bob un destun eu llyfrau at Manon a Jessica ynghyd â Nia Gregory (arweinydd Cylch Meithrin Llanypwll, Wrecsam oedd ar y panel beirniadu) i ddewis 2 lyfr i’w cyhoeddi. Y ddau ddarpar-awdur sydd wedi eu dewis i gyhoeddi eu llyfrau i blant yw Chantelle Moore a Mili Williams, gyda Sarah Younan yn sgwennu stori ar ffurf cartŵn yn WCW - cylchgrawn Cymraeg i blant bach.
Roeddwn i’n hollol gyffrous i gymryd rhan yn y prosiect hwn ac ar ben fy nigon o fod wedi cael fy newis i gael cyhoeddi fy ngwaith!

Mae Manon a Jessica wedi rhannu eu mewnwelediad a'u gwybodaeth werthfawr dros y misoedd diwethaf ac mae wedi fy helpu'n fawr i gredu fy mod i'n gallu gwneud hyn! Dwi methu aros am y cam nesaf yn y daith hudolus yma ac i weld fy llyfr mewn print! Diolch Mudiad Meithrin!
Am syndod hyfryd, ond annisgwyl o fod wedi cael fy newis. Cychwynnais ar y daith hon i ddechrau, yn syml, i fod yn rhan o ofod a grëwyd i hyrwyddo straeon ar lawr gwlad am dreftadaeth a diwylliant.

Nawr rwy'n falch iawn y bydd y daith yn parhau. Rwy'n arbennig o falch i allu anrhydeddu fy nhad-cu, ymfudwr cenhedlaeth Windrush i Gaerdydd a fu farw’n 95 oed yn ddiweddar, trwy rym stori. Rwyf hefyd yn obeithiol y gallai fy ysgrifennu yn y dyfodol gyfrannu at Gymru lle gall fy mhlant, o dreftadaeth gymysg, dyfu i fyny yn gweld eu hunain mewn llyfrau, yn falch o fod yn siaradwyr Cymraeg, ac wedi’i wreiddio’n ddwfn yn eu hunaniaeth.