Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

02 Medi 2022

Cynllun cyfweliad gwarantedig

Mae mwy na 50 o gyflogwyr wedi ymuno â chynllun newydd i helpu mwy o bobl gael swydd mewn gofal cymdeithasol.

 

Bydd y cynllun, a reolwyd gan Gofalwn Cymru, yn helpu unrhyw un sydd wedi cwblhau’r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol gael cyfweliad, a gwneud hi’n haws iddyn nhw gael swydd mewn gofal cymdeithasol.

Mae’r cynllun yn bartneriaeth gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol ar draws Cymru ac yn helpu pobl sy’n chwilio am swyddi a chyflogwyr.

Mae’n cyflymu’r broses recriwtio, fel bod pobl yn gallu cychwyn mewn swyddi’n gynt ac yn rhoi mantais iddyn nhw dros bobl eraill sy’n ceisio am yr un swyddi.

Mae hefyd yn helpu cyflogwyr ddod o hyd i’r bobl iawn i’r swyddi iawn, ac yn eu galluogi nhw i ddewis pobl sydd â gwir ddiddordeb mewn gofal cymdeithasol.

 

Sut mae’n gweithio

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol, caiff pobl eu cyfeirio at hyfforddwr gwaith Gofalwn Cymru.

Bydd yr hyfforddwr yn dod o hyd i swydd iddyn nhw ar borthol swyddi Gofalwn Cymru a hysbysebwyd gan gyflogwr gofal cymdeithasol sy’n rhan o’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Bydd yr hyfforddwr hefyd yn rhoi hyfforddiant iddyn nhw i wella’u sgiliau cyfweliad, er mwyn eu paratoi ar gyfer cymryd eu camau cyntaf mewn gyrfa gofal cymdeithasol.

 

“Cynllun arbennig”

Lansiwyd y cynllun ym mis Gorffennaf ar ôl peilot llwyddiannus gyda Grŵp Pobl, darparwr tai, cymorth a gofal yng Nghasnewydd. Mae Pobl eisoes wedi cyflogi tri pherson ar ôl defnyddio’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Dywedodd Richard Barnes, Pennaeth Denu Talent ym Mhobl:

“Mae’n gynllun arbennig sy’n rhoi cyflwyniad cryf i’r sector. Mae gan y bobl rydyn ni eisoes wedi’u cyflogi agweddau gwych, dealltwriaeth dda o’u rolau newydd a dyfodol disglair o’u blaenau.”

 

Cymerwch ran

Os ydych chi’n gyflogwr gofal cymdeithasol a hoffech chi ymuno â’r cynllun neu ddysgu mwy amdano, mae Gofalwn Cymru yn rhedeg sesiwn gwybodaeth ar 13 Medi. Archebwch eich lle ar Eventbrite.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.