Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

14 Hydref 2022

Digwyddiad ar ddyfodol eich gweithlu wrth gysidro gwirfoddolwyr

Darganfyddwch sut y gall gwirfoddolwyr fod yn rhan o’r atebion i heriau staffio presennol.

Nod y digwyddiad hwn yw rhannu manylion rhaglen Gwirfoddolwr i Yrfa y mae “Helpforce” wedi bod yn ei redeg gyda dros 25 o sefydliadau’r GIG. Ariennir y rhaglen hon gan Ymddiriedolaeth Burdett ar gyfer Nyrsio ac Addysg Iechyd Lloegr.

Yn ôl y canlyniadau, mae 70% o wirfoddolwyr wnaeth gwblhau’r cynllun wedi mynd ymlaen i gael gwaith neu addysg bellach sy’n ymwneud ag iechyd a gofal. Credwn y bydd y rhaglen hon o fudd  i strategaeth gweithlu eich sefydliad, a nod y digwyddiad yw rhannu gyda chi fanylion y rhaglen, sut mae’n rhedeg a straeon llwyddiannus.

Dyma’r siaradwyr a gadarnhawyd isod:

  • Dame Ruth May Prif Swyddog Nyrsio Lloegr
  • Bob Champion, Prif Swyddog Pobl Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Gofal Ardal Bradford
  • Kirsty Marsh-Hyde, Rheolwr Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Prentisiaeth, Addysg Iechyd Lloegr

I gofrestru ar gyfer eich lle a dysgu am yr agenda ar y diwrnod, dilynwch y ddolen hon .

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.